Gwladoli’r diwydiannau allweddol
Gwladoli oedd syniad y Blaid Lafur o roi rheolaeth am y prif ddiwydiannau yn nwylo’r bobl yn hytrach na grŵp bychan o randdeiliaid.

Gwladoli’r diwydiant glo, Ionawr 1947
Roedd hyn yn apelio i gymaint o weithwyr oedd yn teimlo bod gan y perchnogion blaenorol, megis perchnogion glofeydd, fwy o ddiddordeb mewn elw na buddiannau eu gweithwyr. Cafodd 850 o berchnogion pyllau glo iawndal o £164 miliwn rhyngddyn nhw ac ar draws pob diwydiant talwyd iawndal o £2,700 miliwn.
Rhesymau Llafur dros wladoli oedd:
- cynyddu effeithlonrwydd yn y diwydiannau allweddol a helpu eu moderneiddio
- gostwng prisiau a chreu mwy o swyddi
- gwella statws gweithwyr a gwella amodau gwaith
- rhoi blaenoriaeth i weithwyr a defnyddwyr yn hytrach nag elw
A oedd gwladoli yn llwyddiant neu’n fethiant?
Llwyddiant
- Roedd 1 o bob 10 o bobl Prydain yn gweithio yn y diwydiannau gwladoledig yma.
- Cynyddodd allbwn mewn nifer o ddiwydiannau, er enghraifft glo.
- Roedd amodau gwaith yn y diwydiant glo wedi gwella wrth i weithwyr elwa o dâl gwyliau a thâl salwch.
- Roedd rheilffyrdd yn cysylltu mwy o ardaloedd anghysbell gyda’i gilydd. Ni fyddai hyn yn ddeniadol i gwmnïau preifat oherwydd nad oedd yn creu elw, ac mae’n debyg y bydden nhw wedi osgoi gwneud hynny.
- Cafodd mwy o ardaloedd cefn gwlad eu trydaneiddio o dan y berchnogaeth newydd.
Methiant
- Talodd y Llywodraeth £2700 miliwn o iawndal i’r diwydiannau blaenorol.
- Roedd y Ceidwadwyr yn feirniadol o’r holl broses gan ddweud bod gan y llywodraeth ganolog ormod o reolaeth.
- Roedd nifer o bobl yn credu bod y broses yn rhoi cymorth artiffisial i ddiwydiannau oedd yn dirywio.