Ailadeiladu'r wlad ar ôl 1945Polisi 'Cartrefi i Bawb'

Roedd y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel yn 1945 yn benderfynol o gyflwyno newidiadau allweddol fyddai’n gwella bywydau pobl a sefydlu wladwriaeth les. Sut wnaeth y Llywodraeth Lafur ddelio â phroblemau’r oes?

Part ofHanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Polisi 'Cartrefi i Bawb'

Roedd y Llywodraeth Lafur yn awyddus i wella tai, ac roedd hynny yn rhan o’u gwaith o fynd i’r afael a'r 'cawr' .

Pam fod angen hynny?

Amcangyfrifwyd bod y bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi dinistrio 500,000 o gartrefi, ac roedd nifer wedi eu difrodi’n ddrwg, yn arbennig mewn dinasoedd megis Coventry a Llundain. Roedd nifer o gartrefi angen eu moderneiddio ac nid oedd gan 500,000 o gartrefi dŷ bach mewnol yn 1950.

Ceisiodd y Llywodraeth ddatrys y problemau hynny drwy adeiladu dros 1.2 miliwn o dai newydd rhwng 1946 a 1951. Roedd pedwar o bob pum tŷ yn dŷ cyngor a adeiladwyd gan gynghorau lleol, i gael eu rhentu gan deuluoedd. Roedd 156,623 yn dai parod, a elwid yn ‘prefabs’. Roedd y rhain yn ddatrysiad cyflym i’r prinder tai.

Grŵp o ddynion yn gostwng tŷ parod yn ei le a chriw o blant yn gwylio.
Image caption,
Ystâd o dai parod yn cael ei godi, 1946

Roedd Deddf Trefi Newydd 1946 yn awdurdodi adeiladu trefi newydd mewn llefydd megis Stevenage a Harlow yn Lloegr, a Chwmbrân yng Nghymru, er mwyn osgoi gorboblogi’r dinasoedd.

A oedd y polisi ‘Cartrefi i Bawb’ yn llwyddiant neu’n fethiant?

Llwyddiant

  • Roedd y trefi newydd yn helpu i leddfu’r broblem o orboblogi posib.
  • Adeiladwyd dros 800,000 o gartrefi newydd rhwng 1946 a 1951.
  • Cafodd rhai hofelau eu dymchwel a chafodd nifer o gartrefi eu gwella drwy osod ystafelloedd ymolchi mewnol a chyflenwad dŵr poeth.

Methiant

  • Erbyn 1951, roedd yna dal brinder tai newydd ar werth.
  • Roedd yna dal restrau aros mewn ardaloedd trefol yn y 1950au cynnar.
  • Roedd gan rai pobl agweddau negyddol tuag at y tai parod.