Aneurin Bevan a sefydlu’r GIG
Roedd Adroddiad Beveridge yn ymdrin â’r angen i sefydlu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Byddai hynny yn darparu ystod eang o wasanaethau meddygol am ddim yn cynnwys gwasanaethau meddygon, gofal deintyddol, gwasanaethau ysbyty a gwasanaethau mamolaeth. Cymrodd y ddeddf 1,771 o ysbytai awdurdodau lleol a 1,334 o ysbytai gwirfoddol i feddiant cyhoeddus gwladol.
Telir am y GIG yn rhannol o gyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol pobl ac yn rhannol o drethi pobl. Aneurin Bevan gyflwynodd y diwygiad yma.

Aneurin Bevan yn ymweld ag ysbyty newydd, 1948
A oedd y GIG yn llwyddiant neu’n fethiant ar y cychwyn?
Llwyddiant
- Roedd yn boblogaidd ymysg y rhai oedd yn awyddus i osgoi biliau meddygol.
- Disgynnodd cyfraddau clefydau heintus megis twbercwlosis.
- Rhwng 1931 a 1961, bu cynnydd o 10 mlynedd yn nisgwyliad oes dynion a merched.
- Cymrodd y ddeddf 1,771 o ysbytai awdurdodau lleol a 1,334 o ysbytai gwirfoddol i feddiant cyhoeddus gwladol.
- Erbyn Medi 1948, roedd 39,500,000 o bobl wedi cofrestru i’r GIG ac roedd dros 200,000 o feddygon teulu (tua 90 y cant) wedi eu cofrestru.
Methiant
- Nid oedd yn cael cefnogaeth yr holl feddygon, ac roedd llawer yn dymuno parhau mewn practisau meddygol preifat. Ar y cychwyn pleidleisiodd y BMA yn erbyn y GIG, ac roedd raid i Bevan addasu’r ddeddf er mwyn caniatáu iddyn nhw barhau i weithio’n breifat er mwyn ennill eu cefnogaeth.
- Roedd yn gostus iawn - yn ei flwyddyn gyntaf costiodd y GIG dros £500 miliwn i’w sefydlu. Roedd yn costio £248 miliwn i’w gynnal, a oedd yn £140 miliwn yn fwy na’r disgwyl. Cafodd y £2 filiwn a glustnodwyd ar gyfer darparu sbectolau GIG am ddim yn ystod y flwyddyn gyntaf ei wario o fewn wythnosau, oherwydd rhoddwyd dros 5 miliwn o sbectolau yn ystod y flwyddyn gyntaf.
- Yn 1951, roedd raid i’r Llywodraeth Lafur godi ychydig o dâl am wasanaeth deintyddol oherwydd y costau.
- Fe wnaeth y Llywodraeth amcangyfrif y byddai galw am tua 140 miliwn o bresgripsiynau. Cynyddodd y niferoedd o bresgripsiynau bob blwyddyn nes iddo gyrraedd 229 miliwn yn 1951. Rhoddodd hyn bwysau mawr ar broblemau economaidd y wlad.