Cyfleoedd addysgol i bob plentyn
Roedd Deddf Addysg 1944 wedi nodi mai 15 oedd oedran gadael ysgol a chyflwynodd ysgolion uwchradd am ddim. Roedd addysg nawr yn cael ei gynnig i bob plentyn o bob cefndir, yn hytrach na dim ond i’r rhai allai ei fforddio.
Yn ystod blwyddyn olaf ysgol gynradd, roedd plant yn sefyll arholiad o’r enw yr ‘11-plus’. Roedd canlyniad yr arholiad hwn, a oedd yn debyg i brawf IQ, yn pennu i ba ysgol byddai’r plant yn mynd iddi:
- ysgolion gramadeg i ddisgyblion academaidd
- ysgolion uwchradd modern ar gyfer dysgu pynciau ymarferol
- ysgolion technegol ar gyfer dysgu sgiliau ymarferol
Nid oedd y strategaeth hon yn berffaith oherwydd byddai’r disgyblion oedd yn mynychu ysgolion gramadeg yn fwy tebygol o fynd i brifysgol yn ddiweddarach. Roedd sefyll prawf mor dyngedfennol mor ifanc yn her i nifer o ddisgyblion. Roedd gan ysgolion gramadeg well adnoddau, athrawon mwy medrus, ac roedden nhw’n fwy academaidd na’r ddau fath arall o ysgolion.
