Cynnal yr ysbrydCynnal ysbryd pobl yn ystod y rhyfel

Roedd cynnal yr ysbryd yn her fawr i Lywodraeth Prydain. Heb gynnal yr ysbryd a gobaith efallai na fyddai buddugoliaeth wedi bod yn bosibl, yn arbennig o gofio bod angen sifiliaid i helpu gyda’r ymgyrch ryfel. Pa mor bwysig oedd cynnal ysbryd pobl yn ystod y rhyfel?

Part ofHanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Cynnal ysbryd pobl yn ystod y rhyfel

Roedd cynnal ysbryd y boblogaeth sifilaidd yn rhan allweddol o’r rhyfel ar y Ffrynt Cartref.

Roedd Deddf Pwerau Argyfwng (Amddiffyn), a basiwyd yn haf 1939, yn rhoi’r grym i’r Llywodraeth greu deddfau heb ddefnyddio’r Senedd er lles diogelwch y wlad.

Lansiwyd ymgyrchoedd i annog sifiliaid i ymdopi ag effeithiau dyddiol rhyfel diarbed o fomio, dogni, blacowts ac ymgilio, a chynnwys dinasyddion mewn gwahanol ymgyrchoedd.

Roedd yn ceisio cynnal undod, ffyddlondeb a hyder drwy gydol y rhyfel. Pwysleisiwyd buddugoliaethau ond ychydig iawn o sylw a roddwyd i golledion.