Cynnal yr ysbrydPwysigrwydd Churchill fel arweinydd rhyfel

Roedd cynnal yr ysbryd yn her fawr i Lywodraeth Prydain. Heb gynnal yr ysbryd a gobaith efallai na fyddai buddugoliaeth wedi bod yn bosibl, yn arbennig o gofio bod angen sifiliaid i helpu gyda’r ymgyrch ryfel. Pa mor bwysig oedd cynnal ysbryd pobl yn ystod y rhyfel?

Part ofHanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Pwysigrwydd Churchill fel arweinydd rhyfel

Ar 13 Mai 1940, rhoddodd Winston Churchill ei araith gyntaf fel Prif Weinidog.

I would say to the House as I said to those who have joined this government: I have nothing to offer but blood, toil, tears and sweat. We have before us an ordeal of the most grievous kind. We have before us many, many long months of struggle and of suffering. You ask, what is our policy? I will say: It is to wage war, by sea, land and air, with all our might and with all the strength that God can give us; to wage war against a monstrous tyranny, never surpassed in the dark and lamentable catalogue of human crime. That is our policy. You ask, what is our aim? I can answer in one word: Victory. Victory at all costs—Victory in spite of all terror—Victory, however long and hard the road may be, for without victory there is no survival.
Dyfyniad o araith gyntaf Winston Churchill fel Prif Weinidog

Pa rôl ddaru Winston Churchill chwarae?

Roedd Churchill yn ymgorfforiad o’r ysbryd ci tarw, yr oedd ei angen os oedd Prydain am ennill rhyfel lwyr faith. Roedd ganddo brofiad o ryfel yn India ac Affrica (roedd yn gohebydd rhyfel yn ), ac fel Gweinidog Arfau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Churchill wedi bod yn feirniadol o’r polisi dyhuddiad ar ddiwedd y 1930au, ac roedd yn benderfynol o atal Hitler. Nid oedd yn ystyried ildio o gwbl.

Roedd yn cyflwyno areithiau grymus ac yn ymweld ag ardaloedd oedd wedi’u bomio gan yr Almaenwyr yn y gobaith o godi ysbryd. Roedd pobl yn gallu mwynhau ei areithiau ar y radio.

Roedd Churchill yn gweithio’n agos gyda F D Roosevelt, Arlywydd America, er mwyn denu arian a chymorth America i ddechrau, yn arbennig drwy’r trefniadau les-fenthyca, ac yna fel un o’r Cynghreiriaid o Ragfyr 1941. Hefyd, rhoddodd ei amheuon a’i ymddiriedaeth personol i’r neilltu er mwyn gweithio gyda Stalin yn ystod y rhyfel oherwydd mai trechu Natsïaeth oedd y peth pwysicaf un.

Ym marn nifer o bobl Prydain, arweiniad ysbrydoledig Churchill i raddau helaeth oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth y Cynghreiriaid yn 1945. Roedd yn symbol o gadernid, o’r awch i ymladd a phenderfyniad diwyro i beidio ildio. Roedd nifer o bobl yn credu bod Churchill yn gyfrifol i raddau helaeth am fuddugoliaeth Prydain.

Winston Churchill yn sefyll ar falconi gerbron torf anferth yn rhoi’r arwydd ‘V for victory’ gyda’i law.
Image caption,
Winston Churchill yn rhoi ei arwydd ‘V for Victory’ enwog, 1941