Ymgyrchoedd ac apeliadau
Roedd yna ddwy apêl fawr yn ystod y rhyfel er mwyn dangos sut y gellid defnyddio propagandaGwybodaeth, sy’n aml yn unochrog neu’n gamarweiniol, a ddylunnir i berswadio pobl i fabwysiadu safbwynt penodol. er mwyn helpu Prydain i ymdopi.

Tyllu am Fuddugoliaeth (Dig for Victory)
Y rheswm am hyn oedd bod y Weinyddiaeth Fwyd eisiau i bobl wastraffu llai o fwyd a thyfu eu bwyd eu hunain. Byddai hynny hefyd yn eu helpu i ymdopi â dogni.
Roedd yr ymgyrch hon yn annog pobl i ddefnyddio unrhyw dir dros ben i dyfu llysiau. Defnyddiwyd parciau, clybiau golff a hyd yn oed y ffos o gwmpas Tŵr Llundain.
Gofynnwyd i bobl droi eu gwelyau blodau yn rhandiroedd. Hefyd, rhannwyd rysetiau oedd yn awgrymu ffyrdd newydd o goginio llysiau, yn cynnwys ‘cyri moron’ a ‘carotade’.
Erbyn 1943, roedd yna 3.5 miliwn o randiroedd ym Mhrydain, a chynhyrchwyd dros filiwn tunnell o lysiau.


Cronfa Spitfire (Spitfire Fund)
Crëwyd apeliadau er mwyn annog pobl i roi arian tuag at gynhyrchu’r awyrennau Spitfire cyffrous a phoblogaidd. Roedd yn costi rhwng £8,000 a £12,000 (bron i hanner miliwn o bunnoedd heddiw) i adeiladu awyren Spitfire.
Roedd papurau newydd lleol yn rhestru pobl a grwpiau oedd wedi rhoi arian. Mewn gwirionedd, roedd gan bron bob tref ym Mhrydain eu henwau ar awyrennau Spitfire, oedd yn dangos eu bod wedi rhoi yn hael.
Byddai hynny wedi gwneud i bobl deimlo eu bod yn rhan o’r ymgyrch ryfel, a defnyddiwyd delweddau o’r digwyddiadau codi arian yn glyfar fel propaganda.

Defnydd o’r Iaith Gymraeg gan y Llywodraeth
Roedd yna dros 40,000 o Gymry Cymraeg nad oedden nhw’n gallu siarad Saesneg, ac roedd San Steffan yn cydnabod yr angen i gyhoeddi a darlledu propaganda a gwybodaeth arall yn y Gymraeg. Yn ystod y rhyfel, roedd y BBC yn darlledu am 20 munud bob dydd yn y Gymraeg, sef newyddion, sgyrsiau, rhaglenni plant a gwasanaethau crefyddol yn bennaf.