Rôl radio a’r sinema yn ystod y rhyfel
Roedd yr holl gyfryngau - radio, papurau newydd, cylchgronau, ffilmiau sinemâu a’r eitemau newyddion - yn cael eu sensro a’u rheoli gan y Weinyddiaeth Wybodaeth.
Defnyddiwyd radio a’r sinema er mwyn sicrhau nad oedd yr ysbryd yn gwanio, ac er mwyn hysbysu pobl am y llwyddiannau.
Radio
Roedd y Llywodraeth yn rheoli, neu’n sensro, y wybodaeth a gyflwynwyd ar y radio er mwyn cynnal ysbryd rhyfel y bobl. Ond, oherwydd bod y BBC yn ‘sensro ei hun’ (hunansensoriaeth), nid oedd angen i’r Llywodraeth ymyrryd yn aml iawn.
Daeth darlledwyr newyddion y BBC yn boblogaidd iawn ledled Prydain. Ar ddechrau’r rhyfel, penderfynwyd cyhoeddi enwau’r darlledwyr ar ddechrau pob darllediad, fel byddai gwrandawyr yn dod yn gyfarwydd a’u lleisiau rhag ofn i’r gelyn geisio eu dynwared pe bai'r wlad yn cael ei goresgyn.
Roedd darllediadau radio yn trafod llwyddiannau allweddol megis Brwydr Prydain er mwyn lledaenu negeseuon cadarnhaol, ac roedden nhw’n pregethu am ddewrder a phenderfyniad pobl yn ystod y Blitz.
Nid oedd llwyddiannau’r gelyn, megis cwymp Singapore, neu oresgyniad y Natsïaid yn Ffrainc, yn cael eu hyrwyddo cymaint.
Roedd y BBC yn rhan bwysig o gynnal yr ysbryd oherwydd gellid ei glywed yn y cartref drwy’r radio. Darllediad radio poblogaidd oedd rhaglen Tommy Handley, It’s That Man Again. Roedd yn gomedi oedd yn gwneud hwyl am ben y gelyn a dulliau Prydain o ymdopi â’r rhyfel.

Sinema
Roedd y Llywodraeth yn defnyddio’r sinema er mwyn helpu i hyrwyddo’r ymgyrch ryfel, i godi ysbryd pobl ac i rannu newyddion am fuddugoliaethau.
Dangoswyd eitemau newyddion i bobl cyn i’r ffilmiau ddechrau a oedd yn eu hysbysu am ddigwyddiadau rhyfel. Roedd y diwydiant ffilm yn cynhyrchu ffilmiau oedd yn hyrwyddo Prydain ac yn hyrwyddo’r rhyfel.
Cynhyrchodd y Weinyddiaeth Wybodaeth nifer o ffilmiau byr yn trafod sut i ymdopi â’r problemau roedd y rhyfel yn eu creu. Roedd y ffilm Fires Were Started yn trafod ymladd tanau yn Llundain.
Y ffilmiau mwyaf poblogaidd a phwerus am y rhyfel oedd Went the Day Well? a The Day Will Dawn yn 1942 a Tomorrow We Live yn 1943. Roedd Went the Day Well? yn sôn am bentref yn Lloegr oedd wedi ei gipio gan filwyr yr Almaen gyda’r gwarchodlu cartref lleol a’r pentrefwyr yn cydweithio i drechu’r goresgynwyr.