Posteri propaganda a sensoriaeth
Propaganda

Roedd y Weinyddiaeth Wybodaeth yn cyflogi’r artistiaid gorau i gynhyrchu posteri propagandaGwybodaeth, sy’n aml yn unochrog neu’n gamarweiniol, a ddylunnir i berswadio pobl i fabwysiadu safbwynt penodol.. Ffocws y posteri yma oedd hysbysu pobl am beth oedd angen iddyn nhw ei wybod am y rhyfel a sicrhau eu bod yn cefnogi’r rhyfel. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd 3,000 o bobl y gweithio yn y weinyddiaeth.
Roedd posteri yn amrywio o rai oedd yn pwysleisio dewrder ac undod (ysbryd y ci tarw), delweddau yn annog dynion i ymrestru i ymladd ac i ferched weithio mewn ffatrïoedd arfau, ac ymuno â’r ymgyrch ryfel.
Roedd posteri wedi’u dylunio’n glyfar er mwyn hyrwyddo’r ymgyrch ryfel. Er enghraifft, dywedwyd wrth wragedd tŷ am ‘fodloni ac atgyweirio’ yn hytrach na phrynu eitemau newydd, ac y gallai defnyddio bwyd yn ofalus helpu i drechu Hitler.
Sensoriaeth
Defnyddiwyd sensoriaeth i reoli’r negeseuon yr oedd pobl yn eu gweld. Ychydig iawn o newyddion negyddol a gyflwynwyd am y rhyfel.
Roedd radio, papurau newyddion, cylchgronau, ffilmiau sinema ac eitemau newyddion yn cael eu monitro a’u sensro gan y Weinyddiaeth Wybodaeth.
- Gwaharddwyd The Daily Worker, papur newydd oedd yn cefnogi comiwnyddiaeth, oherwydd ei eitemau negyddol.
- Roedd y Llywodraeth yn ystyried sensro darllediadau William Joyce oedd yn gefnogol i’r Natsïaid. Roedd yn Americanwr Gwyddelig, ac fe’i galwyd yn Arglwydd Haw-Haw oherwydd ei lais mawreddog.
- Roedd llwyddiannau milwrol yn cael eu chwyddo er mwyn rhoi’r argraff bod y rhyfel yn symud o blaid buddugoliaeth i’r Cynghreiriaid.