Y mesurau rhyddCerdd benrhydd

Yn y canllaw hwn byddi'n dysgu am nodweddion y gwahanol fesurau rhydd, sef cerddi di-gynghanedd fel soned, mydr ac odl a cherdd benrydd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cerdd benrhydd

Mae cerddi penrhydd yn hawdd eu hadnabod am nad oes strwythur pendant iddyn nhw. Nid oes trefn arbennig i’r sillafau, yr odl, y llinellau na’r penillion mewn cerdd benrydd. Mae hawl gan y bardd i lunio’r gerdd fel y dymuna. Gall y bardd ei gosod ym mha bynnag ffordd yr hoffai hefyd.

Edrycha ar y dyfyniad o’r gerdd benrhydd Gail Fu Farw gan Nesta Wyn Jones:

Dyfyniad o'r gerdd 'Gail fu farw' gan Nesta Wyn Jones.
  • Nid oes strwythur pendant i linellau’r gerdd - sylwa eu bod yn amrywio mewn hyd.
  • Nid oes patrwm odli na sillafau yn y llinellau.
  • Nid oes rhythm neu fydr penodol i’r llinellau na’r penillion.

Weithiau gall y mesur penrhydd fod yn ddewis addas i gyfleu pwnc y gerdd. Yn y gerdd hon, mae’r amrywiaeth yn hyd y brawddegau yn adlewyrchu’r diffyg trefn ym mywyd Gail, gwrthrych y gerdd.