Y mesurau rhyddAmrywio mydr ac odl

Yn y canllaw hwn byddi'n dysgu am nodweddion y gwahanol fesurau rhydd, sef cerddi di-gynghanedd fel soned, mydr ac odl a cherdd benrydd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Amrywio mydr ac odl

Mae gan gerddi sydd ar fydr ac odl rythm penodol i’r llinellau ac i’r penillion ond mae’r hyn sy’n achosi’r mydr ac odl yn amrywio o gerdd i gerdd.

Yn y gerdd hon mae gan y cwpledi rythm am fod yna batrwm arbennig i’r sillafau. Mae gan linell gyntaf bob cwpled wyth sillaf tra bod saith sillaf yn yr ail. Dyma batrwm y pennill cyfan.

Edrycha ar y dyfyniad isod o Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr Lewis:

Diagram i arddangos patrwm odli.
  • Mae patrwm odli amlwg ar ddiwedd llinellau’r gerdd hon.
  • Mae llinellau un, tri, pump a saith y gerdd hon yn odli.
  • Mae llinellau dau a phedwar yn odli.
  • Mae llinellau chwech ac wyth yn odli.
  • Mae’r cwpledi i gyd yn dilyn yr un mydr neu rythm.

Question

Beth yw effaith mydr ac odl y dyfyniad isod? Sut mae’r effaith yn wahanol i effaith mydr ac odl Tai Unnos?

Rhaid peidio dawnsio yng Nghaerdydd / rhwng wyth a deg y bore / mae camerâu yr Heddlu Cudd / a’r Cyngor am y gore