Tai Unnos gan Iwan LlwydY gerdd

Mae'r gerdd hon yn archwilio’r broblem oesol o ddigartrefedd. Gan edrych ar y gorffennol a’r presennol mae’n amlinellu difrifoldeb y sefyllfa.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Y gerdd

Tai Unnos
by Iwan Llwyd

Sbwriel oes yr iâ oedd y cerrig llyfnion
orweddai’n flêr hyd lannau’r afon:

sbarion a shafins cŷn a morthwyl y rhewlif
a siapiodd bob dyffryn ganrif wrth ganrif:

ac â’r sbwriel cododd ein cyndeidiau’n ddyfal
fwthyn clyd yn nhro’r afon, ar seiliau petryal;

gosod carreg ar garreg rhwng gwyll a gwawr,
a chynnau tân cyn i’r landlord dynnu’r cyfan i lawr;

hawlio darn o dir a’i godi’n aelwyd,
drwy nerth bôn braich troi llafur yn freuddwyd:

ar lannau traffyrdd y dinasoedd llwydion,
ac yng nghesail goncrid swyddfeydd gweigion,

dan bontydd ffyrdd osgoi, mewn meysydd parcio mae rhai
yn eu dyblau heno hefyd wrthi’n codi tai,

rhoi trefn ar sbwriel dan y sêr,
hawlio darn o dir â bocsys cardbord blêr.