Tai Unnos gan Iwan LlwydThemâu

Mae'r gerdd hon yn archwilio’r broblem oesol o ddigartrefedd. Gan edrych ar y gorffennol a’r presennol mae’n amlinellu difrifoldeb y sefyllfa.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Themâu

Prif themâu’r gerdd yw digartrefedd ac etifeddiaeth a’r ffaith nad yw’r broblem hon wedi ei datrys eto. Mae hi’n broblem oesol.

Mae hanner cyntaf y gerdd yn canolbwyntio ar agwedd o hanes Cymru, sef y traddodiad o godi tŷ dros nos i sefydlu cartref ac . Dyma ein hetifeddiaeth ni, ac mae’n clymu â digartrefedd yr ail hanner.

Mae ail hanner y gerdd yn bwrw golwg ar fywyd yn y ddinas heddiw, gan dynnu sylw’r darllenydd at anghyfiawnder y byd modern. Mae rhai pobl yn cael eu hanwybyddu gan gymdeithas yng nghesail goncrid swyddfeydd gweigion, a dan bontydd ffyrdd osgoi.

Cyfle cymharu

Cerdd arall sy’n trafod tlodi yw’r gerdd Big Issue (Fesul Gair). Yn y gerdd hon mae’r bardd, Idris Reynolds, yn dweud ei fod yn prynu’r cylchgrawn hwn o bryd i’w gilydd ond yn ei daflu wedi iddo gyrraedd adref gan ddweud bod blas mor gas ar y gwir.

Dywedodd Idris Reynolds ei bod yn well gennym anwybyddu problemau digartrefedd ein byd yn aml. Serch hynny, mae diweddglo’r gerdd Big Issue yn fwy cadarnhaol na diweddglo Tai Unnos am fod y bardd yn dweud Er hyn, rwy’n dal i’w brynu.

'Mae ef felly yn cyfrannu tuag at wella'r sefyllfa trwy brynu'r cylchgrawn, yn wahanol i’r bobl yn y gerdd Tai Unnos, sy’n anwybyddu’r ffaith bod pobl yn cysgu ar y strydoedd tu allan i glydwch swyddfeydd gweigion.