Tai Unnos gan Iwan LlwydMesur

Mae'r gerdd hon yn archwilio’r broblem oesol o ddigartrefedd. Gan edrych ar y gorffennol a’r presennol mae’n amlinellu difrifoldeb y sefyllfa.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Mesur

Cerdd mewn mydr ac odl yw Tai Unnos. Mae’r mesur hwn yn gyfres o gwpledi odledig (aa bb cc ac ati.) Mae curiad a rhythm cyson ym mhob llinell. Mae pedwar curiad ym mhob llinell, ee:

Sbwriel oes yr iâ oedd y cerrig llyfnion

Mae’r rhythm cyson hwn yn rhoi pendantrwydd i’r gerdd. Ers talwm roedd cerddi yn y mesurau mydr ac odl neu rigymau yn boblogaidd ymysg pobl gyffredin yng Nghymru ac felly mae’n fesur addas i drafod materion sy’n cyffwrdd â bywydau cynifer o bobl gyffredin.