Tai Unnos gan Iwan LlwydDadansoddi'r gerdd

Mae'r gerdd hon yn archwilio’r broblem oesol o ddigartrefedd. Gan edrych ar y gorffennol a’r presennol mae’n amlinellu difrifoldeb y sefyllfa.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Dadansoddi'r gerdd

Ddoe

Beth yw tai unnos?

Ganrifoedd yn ôl, roedd yn arferiad yng Nghymru i adael i bâr ifanc tlawd a oedd newydd briodi i adeiladu cartref iddynt eu hunain ar , ond roedd yn rhaid cwblhau’r adeiladu “rhwnga gwawr.” Byddai’r pentref cyfan yn cynorthwyo’r pâr ifanc â’r gwaith. Yn ôl yr hanes, roedd yn rhaid dechrau adeiladu’r tŷ pan fyddai’r haul yn machlud yn y nos a phetai mwg yn dod o simnai’r tŷ erbyn i’r haul wawrio'r bore canlynol, ni fyddai hawl gan y landlordiaid i dynnu’r tŷ i lawr a byddai modd i’r pâr hawlio perchnogaeth ar y darn o dir. Tai syml oedd y rhain, wedi’u hadeiladu â cherrig, pridd a .

Mae dwy ran amlwg i Tai Unnos – sôn am y gorffennol mae’r rhan gyntaf ac mae’r ail ran yn sôn am y presennol.

Hanes traddodiad y tŷ unnos sy’n llunio rhan gyntaf y gerdd lle mae’r bardd yn cyfeirio at waith caled ‘ein cyndeidiau’ wrth:

hawlio darn o dir a’i godi’n aelwyd, / drwy nerth bôn braich, troi llafur yn freuddwyd.

Mae’r bardd yn dechrau trwy siarad am y gorffennol er mwyn tynnu sylw at gymaint sydd wedi newid erbyn heddiw ar un olwg. Un newid mawr rhwng ddoe a heddiw yw’r ffaith mai o fyd natur yr oedd deunydd tai ein cyndeidiau yn dod, hynny yw sbwriel oes yr iâ.

Darlun i arddangos y gymhariaeth rhwng yr hen draddodiad o adeiladu tŷ 'unnos' i sicrhau darn o dir i gwpl sydd newydd briodi, a'r bobl ddigartref sy'n gorfod adeiladu 'tŷ' ar gyfer eu hunain bob nos.

Heddiw

Mae ail hanner y gerdd yn sôn am godi ‘tai’ hefyd, ond mae’r rhain yn dai tra gwahanol. Maen nhw'n dai sy’n llythrennol yn cael eu gwneud â sbwriel. Nid yw’n rhamanteiddio’r gorffennol; dweud am yr hyn sy’n digwydd heddiw y mae.

Gwelwn pa mor anodd yw hi ar bobl ddigartref a pha mor yw eu hamgylchiadau. Maen nhw’n codi eu tai gyda bocsys ar lannau traffyrdd, mewn dinasoedd llwydion a meysydd parcio.

Person digartref yn cysgu mewn bocs cardfwrdd