Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd OwenY gerdd

Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin â Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a’r bygythiadau sy’n eu hwynebu yng Nghymru.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Y gerdd

Etifeddiaeth
by Gerallt Lloyd Owen

Cawsom wlad i’w chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw.

Cawsom genedl o genhedlaeth
i genhedlaeth, ac anadlu
ein hanes ni ein hunain.

A chawsom iaith, er na cheisiem hi,
oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes
a’i grym anniddig ar y mynyddoedd.

Troesom ein tir yn simneiau tân
a phlannu coed a pheilonau cadarn
lle nad oedd llyn.
Troesom ein cenedl i genhedlu
estroniaid heb ystyr i’w hanes;
gwymon o ddynion heb ddal
tro’r trai.
A throesom iaith yr oesau
yn iaith ein cywilydd ni.

Ystyriwch; a oes dihareb
a ddwed y gwirionedd hwn:
Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl,
a’i hedd yw ei hangau hi.