Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd OwenThemâu

Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin â Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a’r bygythiadau sy’n eu hwynebu yng Nghymru.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Themâu

Mae cariad at wlad yn thema amlwg yng ngwaith nifer o feirdd Cymru, yn enwedig Gerallt Lloyd Owen. Mae’n dangos parch at draddodiadau ac at ein cyndeidiau a frwydrodd dros yr hyn sydd gennym heddiw yn y geiriau:

darn o dir yn dyst / ein bod wedi mynnu byw.

Mae'r bardd yn talu teyrnged bellach i bobl Cymru trwy ddweud wrthon ni “anadlu ein hanes ni ein hunain.” Gan dynnu sylw at ei phwysigrwydd a’i phŵer, mae’n llwyddo i ddangos ei barch tuag at yr iaith Gymraeg gyda'r geiriau:

oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes, / a’i grym anniddig ar y mynyddoedd

a thrwy gyfeirio ati fel:

iaith yr oesau.

Yna, mae’n cyferbynnu'r parch hwn â diffyg parch y Cymry heddiw tuag at yr iaith yn y geiriau:

er na cheisiem hi.

Mae’n beirniadu ein bod yn genedl anniolchgar sy’n troi:

... iaith yr oesau, / yn iaith ein cywilydd ni.

Mae newid a chynnydd yn themâu canolog i’r gerdd hefyd. Ceir awgrym ein bod yn colli golwg ar werth ein hetifeddiaeth, trwy geisio gwella a datblygu o hyd. Gobaith Gerallt Lloyd Owen yw bod lle i’r Gymraeg yn y Gymru fodern.

Question

Yn Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen a’r gerdd Colli Iaith gan Harri Webb (Fesul Gair) mae’r beirdd yn sôn am Gymru. Sut mae’r ddau fardd yn cyfleu eu syniadau yn y cerddi?