Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd OwenCefndir a chyd-destun

Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin â Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a’r bygythiadau sy’n eu hwynebu yng Nghymru.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cefndir a chyd-destun

Daw’r gerdd hon o gyfrol enwog Gerallt Lloyd Owen, Cerddi'r Cywilydd. Cefndir cerddi’r gyfrol wladgarol hon oedd arwisgo’r Tywysog Siarl yng Nghaernarfon yn 1969. Bu’r ffaith i’r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghaernarfon yn achos dadlau mawr. Rhwygwyd y genedl yn gefnogwyr a gredai bod cynnal y digwyddiad yng Nghaernarfon yn fraint ac yn rhoi statws i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig, ac yn wrthwynebwyr a gredai mai sarhad oedd y digwyddiad a phrawf o bŵer Seisnig dros Gymru.

Beirniadaeth Gerallt Lloyd Owen o natur groesawgar rhai Cymry i’r digwyddiad yw’r cyfeiriad at ‘gywilydd’ yn nheitl y gyfrol. Cerdd ag iddi naws genedlaetholgar yw Etifeddiaeth. Mae hi’n gerdd enwog dros ben a chaiff ei chwpled clo ei ddyfynnu’n gyson.

Dyfyniad o'r gerdd 'Etifeddiaeth' gan Gerallt Lloyd Owen.

Ceir cyfeiriad at hanes Tryweryn yn y geiriau “lle nad oedd llyn.”

Mae anfodlonrwydd y bardd yn amlwg yma o’r ffaith i’r ardal gael ei boddi i gyflenwi dŵr i Lerpwl. Mae’r bardd yn teimlo mai tystiolaeth o bŵer Seisnig dros Gymru oedd y weithred hon.

Credai’r awdur a’r athronydd John Robert Jones fod iaith, tir a thraddodiad diwylliannol yn hanfodol ar gyfer parhad cenedl. Poeni y mae Gerallt Lloyd Owen yn y gerdd hon ein bod yn colli golwg ar y gwerthoedd hyn.