Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd OwenMesur

Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin â Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a’r bygythiadau sy’n eu hwynebu yng Nghymru.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Mesur

Cerdd benrydd gynganeddol yw hon. Mae hyn yn golygu bod:

  • hyd y llinellau yn amrywio
  • dim patrwm o ran odl na sillafau
  • cynghanedd ym mhob llinell

Mae dewis y bardd o fesur yn ddiddorol yn y gerdd hon. Er ei bod yn edrych yn debyg i gerdd benrydd ar yr olwg gyntaf, mae cynghanedd ym mhob llinell. Mae’r gynghanedd a’r mesurau caeth yn rhan o’n traddodiad a’n hetifeddiaeth farddonol yn y Gymraeg.

Trwy gyfuno’r mesur caeth traddodiadol a’r mesur penrydd modern mae’n llwyddo i blethu’r syniad ein bod mewn perygl o golli ein hetifeddiaeth os na frwydrwn drosti. Mae’r gynghanedd yn bendant ac yn angerddol. Mae cyfuno’r traddodiadol a’r cyfoes yn pwysleisio pwysigrwydd ein hanes a’n diwylliant i ni heddiw.

Cynghanedd

Dyma enghraifft o gynghanedd groes, lle mae'r cytseiniaid yn ail ran y llinell yn cyfateb â'r cytseiniaid yn y rhan gyntaf:

Enghraifft o gynghanedd - 'A throesom iaith yr oesau' gyda'r llythrennau "th r / s | th r / s" uwch ei ben.