Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd OwenNeges ac agwedd y bardd

Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin â Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a’r bygythiadau sy’n eu hwynebu yng Nghymru.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Neges ac agwedd y bardd

Cafodd Gerallt Lloyd Owen ei gan y Tywysog Siarl yng Nghaernarfon ac mae ei yn cael ei fynegi yn y gerdd hon. Mae naws ramantaidd ac ymdeimlad o gariad y bardd at ei wlad yn y gynghanedd lusg sy’n agor y gerdd:

“Cawsom wlad i’w chadw”

Tirwedd ym Mannau Brycheiniog gyda niwl yn gynnar yny bore
Image caption,
"Darn o dir yn dyst ein bod wedi mynnu byw."

Yn y defnydd o’r ferf ‘cawsom’ gwelwn mor ffodus yr ydyn ni ac mae’n creu ymdeimlad o ddyletswydd i warchod yr hyn rydyn ni wedi ei gael. Mae’r bardd yn talu teyrnged i’r genhedlaeth gynt am ein hetifeddiaeth trwy ailadrodd y ffaith ein bod ni wedi cael cymaint:

Cawsom wlad...

Cawsom genedl...

A chawsom iaith...

Yna, mae Gerallt Lloyd Owen yn mynd ymlaen i godi cywilydd ar y darllenydd gan ddweud beth yr ydyn ni wedi ei wneud â’r pethau a gawsom,

Troesom ein tir yn simneiau tân...

Troesom ein cenedl i genhedlu estroniaid...

A throesom iaith yr oesau / yn iaith ein cywilydd ni.

Peilonau trydan yn Eryri.
Image caption,
"Troesom ein tir yn simneiau tân / a phlannu coed a pheilonau cadarn / lle nad oedd llyn."

Wrth adeiladu at uchafbwynt yn y cwpled hwn mae ei feirniadaeth ohonom ni, y Cymry, yn amlwg. Serch hynny, sylwa ei fod yn defnyddio person cyntaf lluosog y ferf bob tro, “Cawsom”, “Troesom” ac “ein bod.” Mae hyn yn cadarnhau’r ffaith nad pwyntio bys at bobl eraill yn unig a wna’r bardd; mae’n cynnwys ei hun yn ei feirniadaeth.

Darn o wymon yn gorwedd ar draeth tywodlyd
Image caption,
"Gwymon o ddynion heb ddal tro'r trai."

Trwy gyfrwng y trosiad “gwymon o ddynion” mae’n llwyddo i gyfleu pa mor a di-asgwrn-cefn yr ydyn ni fel cenedl. Awgrymu ein bod yn cael ein tynnu bob ffordd gan y llif a’n bod bellach yn genhedlaeth heb wreiddiau yw hyn.

Daw neges y bardd yn glir yn y cwpled clo trawiadol:

Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl, / a’i hedd yw ei hangau hi.

sydd yma mewn gwirionedd ac mae defnydd y bardd o gynghanedd groes yn llinell gyntaf y cwpled yn rhoi ergyd i’r dweud. Mae tristwch y bardd yn amlygu ei hun am ei fod yn credu ein bod yn cefnu ar ein hetifeddiaeth. Creda ein bod yn dibrisio ein gwlad trwy geisio gwella a thyfu o hyd. Ni ddylai ein hawydd i ddatblygu olygu ein bod yn aberthu ein hetifeddiaeth. Dylem ymfalchïo yn yr hyn sydd eisoes gennym, sef “[g]wlad”, “[c]enedl” ac “iaith.” Mae’n mynd yn ei flaen i’n rhybuddio gydag amwysedd craff yn y llinell glo:

a’i hedd yw ei hangau hi.

Gall yr “hedd” hwn olygu tawelwch, yn yr ystyr os na ddefnyddiwn y Gymraeg, bydd hi’n marw. Yn ogystal, gall yr “hedd” olygu heddwch, hynny yw, os na frwydrwn dros yr hyn a “gawsom” yna fe fyddwn yn eu colli am byth.