Tai Unnos gan Iwan LlwydNeges

Mae'r gerdd hon yn archwilio’r broblem oesol o ddigartrefedd. Gan edrych ar y gorffennol a’r presennol mae’n amlinellu difrifoldeb y sefyllfa.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Neges

Trwy ailadrodd y geiriau sbwriel a blêr wrth sôn am y bobl a fu’n adeiladu tai unnos yn hanner cyntaf y gerdd a’r bobl ddigartref sydd yn ein dinasoedd heddiw yn ail hanner y gerdd, mae Iwan Llwyd yn pwysleisio nad oes dim wedi newid dros y blynyddoedd. Er bod ein gwlad yn ymddangos fel petai wedi datblygu’n sylweddol yn sgil twf ein dinasoedd a’n ffyrdd osgoi, mae digartrefedd dal yn broblem heddiw.

Yn y gerdd, neges Iwan Llwyd i’r darllenydd yw peidio anwybyddu sefyllfa pobl ddigartref heddiw. Trwy osod traddodiad y tai unnos ochr yn ochr â darlun trist digartrefedd cyfoes, mae’n tynnu ein sylw at y broblem hon - digartrefedd. Trwy ddarlunio’r bobl sy’n cysgu dan focsys cardbord blêr y tu allan i swyddfeydd gweigion mae’n amlygu pa mor yw’r sefyllfa.

Agwedd y bardd

Mae Iwan Llwyd yn talu teyrnged i waith ein cyndeidiau yn hanner cyntaf y gerdd, a hynny am iddynt weithio’n galed i sicrhau cartref i’w teuluoedd. Mae’r defnydd o’r rhagenw lluosogein yn pwysleisio cysylltiad pob un ohonom â’r tai unnos. Trwy ddefnyddio ansoddair mae’r bardd yn dangos ei barch at y bobl hyn trwy ddweud eu bod wedi gweithio’n ddyfal.

Gan ddefnyddio personoli yn y llinellau... "morthwyl y rhewlif / a siapiodd bob dyffryn" ...mae Iwan Llwyd yn talu teyrnged i fyd natur. Mae’r rhewlif yn cael ei ddarlunio fel gweithiwr yn ac yn torri trwy’r dyffryn, gan bwysleisio mor fychan yw dyn yn hanes y ddaear ac mai tenantiaid dros dro ydyn ni.

Rydym yn cael awgrym fod y bardd yn feirniadol o dwf dinasoedd modern gyda’r ansoddairdinasoedd llwydion sy’n darlunio dinasoedd yn oeraidd. Gellid honni bod y cyfeiriad at y swyddfeydd gweigion yn awgrym o y dyn cyfoes. Mae anghyfiawnder yn y ffaith fod swyddfeydd yn wag a rhai heb do uwch eu pennau. Mae’r personoli yn y llinell ac yng nghesail goncrid swyddfeydd gweigion yn glyfar. Fel arfer, mae cesail yn awgrymu clydwch a diogelwch, ond yma mae’r gesail yn adeilad oeraidd sy’n awgrymu nad oes clydwch yma i bobl ddigartref.