Y mesurau rhyddRhigwm

Yn y canllaw hwn byddi'n dysgu am nodweddion y gwahanol fesurau rhydd, sef cerddi di-gynghanedd fel soned, mydr ac odl a cherdd benrydd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Rhigwm

Cyfres o gwpledi sy’n odli yw rhigwm. Yn aml iawn, mae’r mesur hwn yn cael ei gysylltu â cherddi ffwrdd-â-hi a hwiangerddi. Er hynny, mae un o gerddi enwocaf yr iaith Gymraeg yn rhigwm, sef Hon gan T H Parry Williams.

Rhigwm yw Y Coed gan Gwenallt hefyd ac mae iddi strwythur pendant. Edrycha ar y dyfyniad hwn o’r gerdd:

Diagram i arddangos patrwm odli.
  • Mae pob cwpled yn odli.
  • Mae’r cwpledi i gyd yn dilyn yr un mydr neu rythm.
  • Nid oes cyfyngder ar nifer y sillafau na chynghanedd ynddi.

Mae rhigwm yn gerdd â phatrwm penodol ac mae'n cael ei chyfrif yn gerdd mydr ac odl.