Y mesurau rhyddEffaith mydr ac odl

Yn y canllaw hwn byddi'n dysgu am nodweddion y gwahanol fesurau rhydd, sef cerddi di-gynghanedd fel soned, mydr ac odl a cherdd benrydd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Effaith mydr ac odl

Mae Walkers’ Wood yn gerdd arall sydd ar fydr ac odl. Y tro hwn, sylwa fod naw sillaf yn y llinell gyntaf a deg sillaf ymhob llinell arall. Mae gan gerdd Myrddin ap Dafydd strwythur pendant sef cyfres o benillion pedair llinell yr un.

Edrycha ar y dyfyniad isod:

Diagram i arddangos odl.
  • Mae patrwm odli amlwg ar ddiwedd llinellau’r gerdd hon. Mae llinellau dau a phedwar yn odli ac mae’r cwpledi i gyd yn dilyn yr un rhythm.
DyfyniadEffaith
‘Oes 'na enw ar y coed ‘ma, Dad? / - I mi gael dweud y stori fawr wrth Taid.’ / ‘Coed Llugwy ydi’r enw arnynt, was, / Ond Walkers’ Wood sydd yn y Betws Guide.’ Sgwrs a geir yma rhwng tad a mab. Mae rhythm y llinellau yn ychwanegu at arddull sgyrsiol y gerdd.
Dyfyniad‘Oes 'na enw ar y coed ‘ma, Dad? / - I mi gael dweud y stori fawr wrth Taid.’ / ‘Coed Llugwy ydi’r enw arnynt, was, / Ond Walkers’ Wood sydd yn y Betws Guide.’
EffaithSgwrs a geir yma rhwng tad a mab. Mae rhythm y llinellau yn ychwanegu at arddull sgyrsiol y gerdd.

Galli di weld o'r tair enghraifft sydd wedi eu cyflwyno yn y canllaw hwn fod y mesur mydr ac odl yn rhoi rhyddid i'r bardd wneud defnydd da ohono. Trwy ei ddefnyddio fel nodwedd arddull gall y bardd ddefnyddio rhythmau a phatrymau odli i'w fantais. Mae amrywio strwythur y gerdd, hynny yw hyd y llinellau, patrwm yr odl a nifer y sillafau yn ychwanegu at yr effaith mae'r bardd eisiau ei chael ar y darllenydd, ac yn helpu i drosglwyddo ei neges.