Y mesurau rhyddSoned

Yn y canllaw hwn byddi'n dysgu am nodweddion y gwahanol fesurau rhydd, sef cerddi di-gynghanedd fel soned, mydr ac odl a cherdd benrydd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Soned

Mae mesur y soned yn fwy caeth na cherdd ar fydr ac odl am fod yna reolau pendant i’r mesur, ond nid oes cynghanedd ynddi.

Mae’r soned yn fesur poblogaidd. Mae Y Llwynog gan R Williams Parry a Tŷ’r Ysgol gan T H Parry Williams yn rhai enwog.

Y math mwyaf poblogaidd o soned yw'r soned Shakespearaidd. Mae wedi ei henwi ar ôl y dramodydd enwog, William Shakespeare, a oedd yn defnyddio’r patrwm yn rheolaidd.

Beth yw patrwm soned Shakespeare? Edrycha ar y soned Ofn gan Hywel Griffiths.

Diagram i arddangos strwythur soned.
  • Mae 14 llinell mewn soned.
  • Mae’n dilyn patrwm odli: a b a b c ch c ch d dd d dd e e
  • Mae deg sillaf ymhob llinell.
  • Mae soned wedi ei rhannu’n ddwy. Yr wyth llinell gyntaf sef wythawd a’r chwe llinell olaf sef chwechawd. Fel arfer, mae naws neu gyfeiriad y gerdd yn newid ar ôl y volta, sef llinell anweledig rhwng yr wythawd a’r chwechawd.

Question

Mae dewis y mesur addas ar gyfer cerdd yn bwysig i adlewyrchu testun y gerdd. Pam dewisodd Hywel Griffiths mesur y soned i Ofn?