Y mesurau rhyddMydr ac odl

Yn y canllaw hwn byddi'n dysgu am nodweddion y gwahanol fesurau rhydd, sef cerddi di-gynghanedd fel soned, mydr ac odl a cherdd benrydd.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Mydr ac odl

Mae cerdd rydd ar fydr ac odl yn gallu amrywio. Byddwn ni’n edrych ar wahanol enghreifftiau i weld sut mae’n gallu amrywio. Yn gyntaf rydyn ni am edrych ar Tai Unnos gan Iwan Llwyd.

Mae gan gerddi sydd ar fydr ac odl rythm penodol i’r llinellau ac i’r penillion.

Mae’r gerdd Tai Unnos gan Iwan Llwyd yn enghraifft o gerdd rydd ar fydr ac odl. Mae ganddi hi strwythr pendant.

Edrycha ar y dyfyniad isod:

Diagram i arddangos odl.
  • Cyfres o gwpledi sy’n odli yw’r gerdd.
  • Mae geiriau olaf llinellau pob cwpled yn odli.
  • Mae pob cwpled yn dilyn yr un mydr neu rythm.
  • Mae acenion y geiriau yn cwympo yn yr un lle. Mae’r acen ar sillaf gyntaf y geiriau olaf: llyfnion, afon, rhewlif, ganrif.
  • Weithiau mae’n bosib trafod y mydr a'r odl fel nodwedd arddull.
DyfyniadEffaith
“ar lannau traffyrdd y dinasoedd llwydion, / ac yng nghesail goncrid swyddfeydd gweigion, / dan bontydd ffyrdd osgoi, mewn meysydd parcio mae rhai / yn eu dyblau heno hefyd wrth godi’u tai...”Mae mydr ac odl y gerdd yn pwysleisio’r lleoedd lle mae’r digartref yn byw. Mae’r rhythm yn cyflymu’r gerdd er mwyn tynnu sylw at gynifer o leoedd sydd.
Dyfyniad“ar lannau traffyrdd y dinasoedd llwydion, / ac yng nghesail goncrid swyddfeydd gweigion, / dan bontydd ffyrdd osgoi, mewn meysydd parcio mae rhai / yn eu dyblau heno hefyd wrth godi’u tai...”
EffaithMae mydr ac odl y gerdd yn pwysleisio’r lleoedd lle mae’r digartref yn byw. Mae’r rhythm yn cyflymu’r gerdd er mwyn tynnu sylw at gynifer o leoedd sydd.