Elfennau dramaDefnyddio symbolau

Elfennau drama ydy'r cynhwysion sy'n rhoi siâp a chymeriad i ddarn o waith. Yn ogystal â chymeriadau, plot a gweithredoedd, ystyria pa ffurfiau a chonfensiynau dramatig i'w defnyddio.

Part ofDramaGwaith sgript

Defnyddio symbolau

Symbol ydy rhywbeth sy’n sefyll dros, neu sy’n cynrychioli rhywbeth arall. Mae symbolau’n cael eu defnyddio’n aml mewn dramâu i ddwysáu ystyr ac atgoffa’r gynulleidfa am y themâu neu’r pynciau mae’n eu cynnwys.

Yn aml mae gan brop neu ddarn o set arwyddocâd arbennig y bydd cynulleidfa yn ei adnabod ar unwaith pan gaiff ei ddefnyddio’n symbolaidd yn y gwaith. Enghraifft o hyn ydy’r defnydd o’r grisiau fel trosiad gweledol yn nrama Gwenlyn Parry, Y Tŵr.

Pedwar o eiconau yn dangos: 1) Cot lab gwyn, 2) Colomen, 3) Llun priodas wedi ei rwygo, 4) Oen

Beth allai’r pethau uchod fod yn eu cynrychioli?

  1. Mae côt wen yn cynrychioli meddygaeth, gwyddoniaeth, awdurdod
  2. Mae’r golomen yn cynrychioli heddwch a thangnefedd
  3. Mae’r llun priodas wedi ei rwygo yn cynrychioli ysgariad neu wahanu
  4. Mae oen bach yn cynrychioli bywyd newydd, gwanwyn, diniweidrwydd neu aberth

Symudiadau symbolaidd

Nid propiau yn unig sy’n cael eu defnyddio’n symbolaidd mewn drama. Gall symudiad a gweithredoedd fod yn symbolaidd hefyd, yn enwedig os wyt ti’n defnyddio Theatr gorfforol fel ffurf. Roedd drama uchelgeisiol y Theatr Genedlaethol, Y Bont, yn defnyddio’r brotest gyntaf gan Gymdeithas yr Iaith ar bont Trefechan fel stori. Ond roedd stori’r ddau gariad yn ‘pontio’ eu gwahaniaethau ar ddiwedd y ddrama yn rhoi mwy nag un ystyr i’r ‘bont’ a oedd hefyd yn symbol o’r brotest ei hun.

Mae modd defnyddio amlgyfryngau i gyfleu symbolaeth hefyd. Yn Mac//Beth defnyddiwyd fideo i daflunio delweddau o anifeiliaid symbolaidd megis neidr, tylluan ac eryrod. Ym mherfformiad Theatr Genedlaethol Cymru o Blodeuwedd, mae yna dylluan, fel yn y chwedl, sy’n cynrychioli Blodeuwedd ei hun.