Elfennau dramaNaratif toredig

Elfennau drama ydy'r cynhwysion sy'n rhoi siâp a chymeriad i ddarn o waith. Yn ogystal â chymeriadau, plot a gweithredoedd, ystyria pa ffurfiau a chonfensiynau dramatig i'w defnyddio.

Part ofDramaGwaith sgript

Naratif toredig

Mae rhai dramâu yn cynnwys llawer o straeon ac yn symud yn ôl ac ymlaen rhyngddyn nhw, ambell waith yn annisgwyl. Yr enw ar hyn yw naratif toredig. Mae’r dramodydd Aled Jones Williams yn defnyddio’r ddyfais hon yn aml yn ei ddramâu.

Mae’r clip hwn gan Gwmni Da o gynhyrchiad Cwmni’r Frân Wen o’i ddrama yn dangos arddull y naratif toredig

Plotiau llinellol ac anllinellol

Mae llawer o straeon mewn trefn , ond gyda’r ddrama’n symud yn ôl ac ymlaen rhyngddyn nhw. Mae’r ddrama Diwedd Dyn Bach, cyfieithiad o ddrama Arthur Miller, Death of a Salesman, yn enghraifft o blot llinellol ac er ei fod yn torri i olygfeydd breuddwydiol drwyddi draw, mae’r digwyddiadau’n dal i ddigwydd mewn trefn gronolegol. Mae plot Sunset Boulevard yn anllinellol. Mae’r ffilm, a ysgrifennwyd gan Charles Brackett a Billy Wilder, yn dechrau gyda diwedd y stori - marwolaeth y prif gymeriad. Gellir rhannu drama Shakespeare The Merchant of Venice yn bedwar is-blot sy’n gwau i mewn ac allan o’i gilydd drwy gydol y ddrama cyn dod ynghyd ar y diwedd.

Cymeriadau

Mae’r cymeriadau yn y gwaith rwyt ti’n ei greu hefyd yn rhan bwysig o ddatblygiad dy blot. Edrycha ar Datblygu cymeriadau i ddysgu mwy.