Uchafbwynt a gwrthuchafbwynt
Mae hyn yn golygu adeiladu a rhyddhau tyndra mewn drama.
Tyndra neu densiwn ydy’r ymdeimlad o ddisgwyliad sydd yn y ddrama, teimlad fod y stori’n adeiladu at ddigwyddiad cyffrous. Heb dyndra mewn golygfa mae’n anodd cadw diddordeb y gynulleidfa yn yr hyn sy’n digwydd ac felly gallai’r gwaith fod yn undonog a diflas.
Yr uchafbwynt ydy’r adeg pan fydd y tyndra mewn golygfa yn cyrraedd ei benllanw. Dyma’r foment fwyaf cyffrous.
Gwrthuchafbwynt ydy rhyddhau’r tyndra. Mae’n digwydd pan fydd y tyndra wedi cyrraedd ei fan uchaf ac yna’n disgyn yn sydyn.
Dychmyga olygfa lle mae gwystlRhywun sy'n cael ei ddal yn erbyn ei ewyllys ac sydd ond yn cael ei ryddhau o dan amodau arbennig, ee pan fydd arian yn cael ei dalu. yn dianc rhag y rhai sydd wedi’i ddal. Maen nhw’n sylweddoli beth sydd wedi digwydd ac yn chwilio’r ystafell lle mae’r gwystl yn cuddio. Mae seibiannau’n cynyddu’r tyndra ac mae’r gwystl yn agos iawn at gael ei ddal felly mae aelodau’r gynulleidfa ar flaenau eu seddau. Pan fydd y gwystl o fewn eiliadau i gael ei ddarganfod, mae’r carcharwyr yn penderfynu gadael a chwilio yn rhywle arall. Mae’r gynulleidfa’n rhoi ochenaid o ryddhad ar ran y gwystl.
Gwrthuchafbwynt ydy hyn. Mae’r tyndra wedi adeiladu ac yna’n cael ei ryddhau.
Mae dramâu cyfres a dramâu sebon ar y teledu fel Pobol y Cwm yn aml yn gorffen yn union cyn cyrraedd yr uchafbwynt er mwyn sicrhau y bydd y gynulleidfa’n gwylio y tro nesaf i weld beth fydd yn digwydd. Gelwir hyn yn ddiwedd pennod sy’n ein gadael ar ochr y dibynDiwedd dramatig a chyffrous i bennod mewn cyfres sy’n gwneud i'r gynulleidfa fod eisiau gwylio'r bennod nesaf..
Cyferbyniad
Cyferbyniad ydy gwahaniaeth amlwg rhwng dau neu ragor o bethau sydd wedi eu gosod ochr yn ochr i greu effaith ddramatig, ee llonyddwch nesaf at brysurdeb.
Pan fydd dau beth cyferbyniol yn cael eu gosod nesaf at ei gilydd, mae eu heffaith yn cryfhau.
Ystyria ddefnyddio cyferbyniad fel ffordd o amlygu gwahaniaethau yn dy ddrama a chadw diddordeb y gynulleidfa.
Er enghraifft, mae menyw’n teimlo’n unig a diflas ar ôl marwolaeth ei hannwyl ŵr. Mae creu ôl-fflachGolygfa sy'n dangos rhywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol; adrodd yr hyn mae cymeriad yn ei gofio am ddigwyddiad. o’u cyfnod hapus gyda’i gilydd, yn chwerthin a chwarae gyda’u plant, yn cyferbynnu â’r presennol ac yn dwysáu ei cholled gan ei wneud yn fwy emosiynol i’r gynulleidfa. Mae’r gynulleidfa’n deall yn llwyr beth mae’r fenyw wedi ei golli.

Pa gyferbyniad sydd i’w weld yn y ddelwedd hon?
Mae trawstorri sef symud yn ôl ac ymlaen rhwng dwy olygfa yn fodd effeithiol o ymchwilio i gyferbyniad mewn unrhyw ddrama ddyfeisiedig, yn enwedig os byddi di’n ymchwilio i thema neu bwnc penodol.