Elfennau dramaFfurfiau a digwyddiadau’r ddrama

Elfennau drama ydy'r cynhwysion sy'n rhoi siâp a chymeriad i ddarn o waith. Yn ogystal â chymeriadau, plot a gweithredoedd, ystyria pa ffurfiau a chonfensiynau dramatig i'w defnyddio.

Part ofDramaGwaith sgript

Ffurfiau a digwyddiadau’r ddrama

Digwyddiadau’r ddrama ydy’r hyn sy’n digwydd ynddi. Dyma’r hyn sy’n digwydd rhwng cymeriadau mewn golygfa ac yn y ddrama. Gallai fod yn frwydr â chleddyfau yn Macbeth neu’n drafodaeth llawn tensiwn lle nad ydy’r naill gymeriad na’r llall yn symud yn gorfforol o gwbl.

Cynnwys

Dyma bwnc dy ddrama. Y themâu, y cwestiynau a’r syniadau sydd ynddi. Er enghraifft gallai digwyddiadau’r darn gynnwys dwy chwaer yn dadlau, ond y cynnwys yw’r gystadleuaeth rhwng brodyr a chwiorydd.

Ffurfiau dramatig

Y ffurf ydy’r dull rwyt ti’n ei ddewis i adrodd dy stori ac i ymchwilio i themâu wrth gyflwyno dy waith. Er enghraifft, gallet ti ddewis cyflwyno darn o waith ar ffurf meim, lle nad ydy’r actorion yn siarad, neu Theatr Gorfforol, lle mae symudiadau haniaethol yn symbol o gysylltiadau a pherthynas.

Cofia, ffurf ydy’r peth ei hun ac arddull yw’r ffordd rwyt ti’n ei gyflwyno. Felly gyda meim comig, y meim ei hun ydy’r ffurf ddramatig, ond mae’r arddull yn ‘gomedïol’.

Dyma’r ffurfiau drama dylet ti eu hystyried:

  • Meim
  • Gwaith corawl
  • Theatr gorfforol
  • Theatr gerddorol
  • Ffars
  • Dychan
  • Dawns
  • Drama gyffrous (thriller)

Gallet ti ddewis cyfuno gwahanol ffurfiau dramatig wrth greu dy waith. Bydda’n greadigol, arbrofa i weld pa ffurfiau dramatig sy’n gweithio i ti.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 4, Elena Yarovaya ac Anton Adassinski yn Harlekin, Derevo Mime Theatre, Elena Yarovaya ac Anton Adassinski yn Harlekin, Derevo Mime Theatre LLUN: Oskar Neubauer/Derevo Mime Theatre