Anhafaleddau - Canolradd ac UwchGraffiau anhafaleddau

Algebra yw un o’r arfau mwyaf pwerus ym myd mathemateg – hebddo, ni fyddai gennyn ni dechnoleg gyfrifadurol fodern, datblygiadau meddygol na theithiau awyren fel y gwyddwn ni amdanyn nhw heddiw.

Part ofMathemategAlgebra

Graffiau anhafaleddau

Mae’r drefn wrth blotio graffiau anhafaleddau’n debyg iawn i’r drefn wrth blotio graffiau.

Gallwn blotio graffiau anhafaleddau syml yn baralel i’r echelinau-\(x\) neu \(y\) a gall tablau gwerthoedd ein helpu i blotio llinellau mwy cymhleth.

Er enghraifft, mae’r graff hwn yn dangos yr anhafaledd \(x \textless -1\). Gwelwn hyn gan fod llinell doredig yn -1, ac mae’r sy’n llai na hyn wedi ei thywyllu.

Graff gydag echelinau x ac y o -5 i 5, llinell doredig ar x=-1, gyda phwynt wedi ei farcio ar y llinell yn y = 4.5 a’r label 'x < -1'.

Enghraifft

Dangosa’r rhanbarth sy’n bodloni’r anhafaledd \(-2 \textless x \leq 3\).

Noda’r rhanbarthau mae’r anhafaleddau yn cyfeirio atyn nhw. Dyma nhw: \(x \textgreater -2\) a \(x \leq 3\).

Mae \(x \textgreater -2\) felly llunia linell doredig yn \(x = -2\). \(x = -2\) yw’r graff sy’n cael ei lunio gan bwyntiau’r cyfesurynnau lle mae \(x\) yn hafal i -2, er enghraifft (-2, 5), (-2, 4), (-2, 3), (-2, 2) ac yn y blaen.

Mae \(x \leq 3\) felly llunia linell solet yn \(x = 3\). \(x = 3\) yw’r graff sy’n cael ei lunio gan bwyntiau’r cyfesurynnau lle mae \(x\) yn hafal i 3, er enghraifft (3, -4), (3, -3), (3,-2), (3, -1) ac yn y blaen.

\(x\) yw’r gwerthoedd rhwng y ddau anhafaledd hyn, felly tywylla’r ardal.

Graff gydag echelinau x ac y o -5 i 5, llinell doredig yn x = -2, gyda’r label 'x > -2'. Llinell solet ar y = 3, gyda phwynt yn nodi’r label x ≤ 3.

Question

Dangosa ranbarth y pwyntiau sy’n bodloni’r anhafaleddau \(-4 \leq y \textless 0\) ac \(y \geq x\)