Anhafaleddau - Canolradd ac UwchAnhafaleddau mathemategol mewn bywyd bob dydd

Algebra yw un o’r arfau mwyaf pwerus ym myd mathemateg – hebddo, ni fyddai gennyn ni dechnoleg gyfrifadurol fodern, datblygiadau meddygol na theithiau awyren fel y gwyddwn ni amdanyn nhw heddiw.

Part ofMathemategAlgebra

Anhafaleddau mathemategol mewn bywyd bob dydd

Yn ein bywyd bob dydd, rydyn ni’n aml yn canfod ein hunain mewn sefyllfaoedd y gallwn eu cynrychioli’n fathemategol ar ffurf anhafaleddau. Er enghraifft, os ydyn ni eisiau cymryd tacsi, efallai y gwelwn fod y gost yn dâl sefydlog o £1.50, a 50c y filltir ar ben hynny. Os mai dim ond £20 sydd gennyn ni, yna gallwn ddisgrifio’r sefyllfa gyda’r anhafaledd canlynol:

£1.5 + £0.5\({M}\) \({\leq}\) £20

\({M}\) = nifer y milltiroedd a deithiwyd.

Wrth lunio anhafaleddau, mae’n bwysig ein bod yn deall beth rydyn ni’n ceisio ei gyflawni ac, yn bwysicach, pa arwydd anhafaledd y dylen ni ei ddefnyddio.

Enghraifft

Mae ysgol yn cynnal gwerthiant teisennau er mwyn codi arian. Maen nhw’n gwerthu teisennau am £1 a diodydd meddal am 50c. Ysgrifenna anhafaledd i ddangos faint o deisennau a diodydd sydd angen iddyn nhw eu gwerthu er mwyn codi o leiaf £100.

Maen nhw’n codi 50c am bob diod feddal – £0.5 × \({d}\)

Maen nhw’n codi £1 am bob teisen - £1 × \({c}\)

Felly’r anhafaledd yw:

(£0.5 × \({d}\)) + (£1 x \({c}\)) \({\geq}\) £100

Question

Mae gan Kayleigh £200. Hoffai brynu gemau ar gyfer ei chyfrifiadur, sy’n costio £30 yr un, ond hoffai hefyd gael o leiaf £75 dros ben. Ysgrifenna anhafaledd ar gyfer y sefyllfa hon, gan ddefnyddio \({n}\) i gynrychioli nifer y gemau y gall hi eu prynu.