Trosglwyddiad egni yw gwneud gwaith. Gall egni gael ei gadw, mewn EPD, EC ac egni elastig – fel grym ac estyniad mewn sbring. Mae gan geir nodweddion sy’n amsugno egni mewn damwain.
Mewn damwain car, mae'r car, ei gynnwys a'r teithwyr yn arafuPan mae buanedd rhywbeth yn lleihau, mae’n arafu. yn gyflym. Maen nhw'n profi grymGwthio neu dynnu. Newton (N) yw uned grym. mawr oherwydd y newid momentwmMesur sy'n gysylltiedig â mudiant gwrthrych. Mae'n cael ei gyfrifo drwy luosi màs y gwrthrych â'i gyflymder., sy'n gallu achosi anafiadau. Mae gan geir modern nodweddion diogelwch sy'n amsugno egni cinetigEgni cinetig yw'r egni sydd gan wrthrychau sy'n symud.mewn damweiniau. Mae’r rhain fel rheol yn cynnwys:
gwregysau diogelwch
bagiau aer
cywasgrannau
Mae'r nodweddion hyn yn lleihau anafiadau i'r bobl yn y car drwy amsugno egni o'r ardrawiad. Mae'r nodweddion hyn yn amsugno egni wrth newid siâp. Mae hyn yn lleihau anafiadau i'r bobl yn y car. Maen nhw'n gwneud i'r newid momentwm ar gyrff y teithwyr gymryd mwy o amser, sy'n lleihau'r grymoedd ac unrhyw anafiadau sy'n digwydd o ganlyniad.
Gwregysau diogelwch
Mae gwregysau diogelwch yn dy gadw di mor ddiogel â phosibl y tu mewn i'r car mewn damwain. Fodd bynnag, maen nhw wedi'u cynllunio i ymestyn ychydig bach mewn damwain. Mae hyn yn cynyddu'r amser mae'n ei gymryd i fomentwm y corff gyrraedd sero, ac felly'n lleihau'r grymoedd arno.
Bagiau aer
Mae bagiau aer yn cynyddu'r amser mae'n ei gymryd i fomentwm y pen gyrraedd sero, ac felly'n lleihau'r grymoedd arno. Maen nhw hefyd yn gweithredu fel clustog feddal ac yn atal toriadau i'r croen.
Cywasgrannau
Rhannau o gerbyd sydd wedi'u cynllunio i wasgu mewn ffordd reoledig yw cywasgrannau. Maen nhw'n gwneud i newid momentwm y gyrrwr a'r teithwyr gymryd mwy o amser mewn damwain, sy'n lleihau'r grymoedd.
Figure caption,
Llun o'r ochr, o gar sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad. Mae'n dangos y cywasgrannau a'r bagiau aer wedi'u chwythu.