Trosglwyddiad egni yw gwneud gwaith. Gall egni gael ei gadw, mewn EPD, EC ac egni elastig – fel grym ac estyniad mewn sbring. Mae gan geir nodweddion sy’n amsugno egni mewn damwain.
Mae gan bob gwrthrych sy'n symud egni cinetigEgni cinetig yw'r egni sydd gan wrthrychau sy'n symud. (EC). Mae EC gwrthrych yn dibynnu ar y ffactorau hyn:
màs
buanedd
Egni potensial elastig
Mae grym sy'n gweithredu ar wrthrych yn gallu achosi newid i siâp y gwrthrych. Mae gwrthrychau elastig yn gallu storio egni potensial elastig os ydyn ni'n eu hymestyn nhw. Er enghraifft, mae hyn yn digwydd wrth ddefnyddio catapwlt.
Newid siâp
Mae gwrthrychau elastig hefyd yn gallu storio egni potensial elastig os ydyn ni'n eu gwasgu nhw. Er enghraifft, mae hyn yn digwydd pan gaiff pêl sboncen ei gollwng ar arwyneb caled.
Mae gwaith yn cael ei wneud ar wrthrych elastig pan mae ei siâp yn newid, ac mae'n storio egni potensial elastig. Gallwn ni gyfrifo faint o egni sydd wedi'i storio wrth ymestyn neu wasgu defnydd elastig, ond does dim angen i ti allu gwneud hynny yn dy arholiad.