Gwaith ac egniGrym ar sbring a systemau syml eraill

Trosglwyddiad egni yw gwneud gwaith. Gall egni gael ei gadw, mewn EPD, EC ac egni elastig – fel grym ac estyniad mewn sbring. Mae gan geir nodweddion sy’n amsugno egni mewn damwain.

Part ofFfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Grym ar sbring a systemau syml eraill

Mae grymoedd yn gallu newid siâp gwrthrych. Pan mae gwrthrych elastig fel sbring cael ei ymestyn neu ei wasgu, mae'n storio egni potensial elastig. Mae estyniad gwrthrych elastig mewn union â'r grym sy'n cael ei roi arno.

Deddf Hooke

Pan mae gwrthrych elastig, fel sbring, yn cael ei ymestyn, yr enw ar y cynnydd hyd yw estyniad. Mae estyniad gwrthrych elastig mewn cyfranned union â’r grym sy’n gweithredu arno.

\(\text{F} = {\text{k}}\times{\text{x}}\)

  • F yw’r grym, mewn newtonau, N.
  • k yw ‘cysonyn y sbring’, mewn newtonau y fetr, N/m.
  • x yw’r estyniad mewn metrau, m.

Mae’r hafaliad hwn yn gweithio ar yr amod nad yw’r terfan elastig yn cael ei basio. Os yw sbring yn cael ei ymestyn ormod, er enghraifft, ni fydd yn dychwelyd i’w hyd gwreiddiol pam gaiff y llwyth ei dynnu oddi arno.

Cysonyn y sbring

Mae cysonyn y sbring, k, yn wahanol i wahanol wrthrychau a deunyddiau. Mae’n bosibl cynnal arbrawf i’w ddarganfod. Er enghraifft, caiff hyd sbring heb ei lwytho ei fesur. Yna, caiff gwahanol fàsau eu llwytho ar y sbring, ac mae’r sbring yn cael ei fesur bob tro. Yr estyniad yw’r hyd newydd, tynnu’r hyd gwreiddiol (heb ei lwytho).

Graff sy'n dangos Deddf Hooke.
Figure caption,
Graff yn dangos Deddf Hooke, estyniad wedi’i blotio’n erbyn grym

Gan dybio fod y terfan cyfrannol (terfan elastig) ddim yn cael ei orlwytho, bydd graff grym yn erbyn estyniad yn dangos llinell syth sy’n pasio drwy’r tarddiad. Cysonyn y sbring, k, yw gradffa’r llinell. Po fwyaf gwerth k, y mwyaf yw anystwythder y sbring.