Trosglwyddiad egni yw gwneud gwaith. Gall egni gael ei gadw, mewn EPD, EC ac egni elastig – fel grym ac estyniad mewn sbring. Mae gan geir nodweddion sy’n amsugno egni mewn damwain.
Mae gwrthrych yn gallu bod ag egni oherwydd ei fudiant, ei safle a'i anffurfiad.
Ar y Ddaear, mae grym disgyrchiant yn gweithredu arnat ti drwy'r amser. Os wyt ti uwchben arwyneb y Ddaear, mae gen ti egni potensial (wedi'i storio). Rydyn ni'n galw’r egni hwn yn egni potensial disgyrchiant (EPD).
Mae swm yr EPD sydd gan wrthrych ar y Ddaear yn dibynnu ar y ffactorau canlynol:
màs
uchder uwchben y ddaear
Yn y diagram:
mae gan bob llyfr ar y silff EPD
mae gan lyfr A fwy o EPD na llyfr C oherwydd mae'n uwch
mae gan lyfr B fwy o EPD na llyfr A oherwydd mae ei fàs yn fwy
Os yw gwrthrych yn cael ei godi, mae gwaith yn cael ei wneud yn erbyn grym disgyrchiant. Mae'r gwrthrych yn ennill egni. Er enghraifft, byddai llyfr C yn ennill EPD pe bai'n cael ei godi i'r silff uwch wrth ochr llyfrau A a B.
Cyfrifo newidiadau i EPD (haen uwch)
Dyma'r hafaliad i gyfrifo egni potensial disgyrchiant.