Diffyg preifatrwydd
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu cael effaith niweidiol iawn ar breifatrwydd pobl.
Does dim sicrwydd bydd rhywbeth sydd wedi cael ei ysgrifennu ar y cyfryngau cymdeithasol yn diflannu am byth. Hyd yn oed os yw rhywbeth yn cael ei ddileu, mae’n bosibl bydd rhywun eisoes wedi ei recordio, ei lwytho i lawr, neu wedi cymryd ciplun ohono.
Hyd yn oed ar safleoedd sydd â ‘rhestr ffrindiau’ neu ‘ddilynwyr’, bydd pobl ddieithr yn dal i allu dilyn sgyrsiau drwy bostiadau ar waliau ac ymatebion i drydariadau.
Yn yr un modd, pan mae rhywbeth yn cael ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, does wybod i ble y bydd yn mynd nesaf. Mae rhai pethau’n mynd yn feiral Postiad sy’n mynd yn eithriadol o boblogaidd mewn cyfnod byr iawn oherwydd ei fod yn cael ei rannu gan ddefnyddwyr y rhyngrwyd..
Yn ôl rhai rhagolygon bydd y farchnad gwe-gamerâu fyd-eang yn werth $15.2 biliwn (tua £12.2 biliwn) erbyn 2021, sy’n dangos pa mor boblogaidd yw gwe-gamerâu er mwyn gallu sgwrsio gyda ffrindiau a theulu sy’n bell i ffwrdd.
Ond yn union fel y cyfryngau cymdeithasol, mae’n bosibl nad yw gwe-gamerâu yn breifat chwaith. Drwy ddefnyddio RAT (Remote Access Trojan), mae hacwyr yn gallu cael mynediad at we-gam unigolyn heb iddo wybod. Mae’n bwysig iawn cael y meddalwedd gwrth-firws diweddaraf er mwyn lleihau’r siawns bydd hyn yn digwydd.
Cyngor yr actores Jacqueline Jossa er mwyn bod yn ddiogel wrth ddefnyddio gwe-gamerâu (Cynnwys Saesneg)