Cyfryngau cymdeithasol - hyrwyddo busnes
Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd rad i fusnesau hyrwyddo eu hunain a’r cynnyrch neu'r gwasanaethau maen nhw’n eu gwerthu.
Gallai busnesau:
- greu tudalen Facebook a phostio cynigion arbennig i bawb sy’n ‘hoffi’ eu tudalen
- creu eu sianel YouTube eu hunain ac ychwanegu fideos difyr neu addysgiadol
- cyhoeddi trydariadau diddorol neu anarferol amdanynt eu hunain a’u cynnyrch neu eu gwasanaethau
- anfon awgrymiadau ar Twitter ynglŷn â sut i ddefnyddio eu cynnyrch neu eu gwasanaethau
- dilyn cwsmeriaid a phobl ddylanwadol, ee entrepreneuriaid, newyddiadurwyr, blogwyr ac enwogion
Enghraifft bywyd go iawn

Mae Xbox yn frand sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol.
Mae tudalen Twitter y brand yn cael ei diweddaru’n gyson gyda newyddion, hysbysebion a ffotograffau pwerus. Mae'r brand hefyd yn trydar negeseuon rheolaidd sy’n cynnig adnoddau i gwsmeriaid yn ogystal â thrafodaethau ar bynciau cyffredin.
Yn ychwanegol at hyn, mae @XboxSupport yn gallu datrys problemau mewn ychydig funudau ar gyfer y bobl sy’n chwarae eu gemau. O ganlyniad, mae wedi cael ei gynnwys yn y Guinness World Records fel y brand mwyaf parod i ymateb ar Twitter. Mae gan Xbox dros 11.6 miliwn o ddilynwyr ac mae’n anfon dros 5,000 o ymatebion bob diwrnod.
Erbyn hyn mae llawer o gwmnïau yn cydnabod pwysigrwydd gwneud defnydd effeithiol o gyfryngau cymdeithasol a sicrhau eu bod yn rhyngweithio ac yn ymateb i’w cwsmeriaid ar-lein.