Y broses hyrwyddo
Dylai busnesau ddilyn proses benodol wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu cynnyrch.
Cam un - penderfynu beth yw nodau’r cwmni
Gallai’r nodau gynnwys codi ymwybyddiaeth o’r brand Y graddau y mae cwsmeriaid yn ymwybodol o briodweddau a delwedd math penodol o gynnyrch. a denu cwsmeriaid newydd.
Cam dau - gosod amcanion
Gosod targedau SMART sy’n gysylltiedig â’r nodau.
Acronym yw SMART sy'n sefyll am y geiriau Saesneg a ganlyn:
- Specific (ee wyt ti wedi diffinio beth yn union yw dy nod?)
- Measurable (ee sut mae mesur a wyt ti wedi cyflawni’r nod?)
- Achievable (ee ydy'r nod o fewn cyrraedd?)
- Realistig (ee ydy hi wir yn bosibl i ti gyflawni’r nod?)
- Time bound (ee wyt ti wedi gosod cyfnod penodol o amser ar gyfer cyflawni’r nod?)
Y geiriau Cymraeg ar gyfer targedau SMART yw:
- Penodol (specific)
- Mesuradwy (measurable)
- Cytunedig (achievable)
- Realistig (realistic)
- Amserol (time bound)
Cam tri - targedu'r cwsmeriaid
Mae hyn yn golygu nodi pa gwsmeriaid penodol fydd yn cael eu targedu. Er enghraifft, beth yw oed, incwm, arferion a diddordebau’r gynulleidfa fydd yn cael ei thargedu, beth mae’n ei hoffi a beth nad yw’n ei hoffi?
Cam pedwar - ymchwilio i’r gystadleuaeth
Ymchwilio er mwyn cael gwybodaeth am gwmnïau eraill sy’n cystadlu am gwsmeriaid. Pa gyfryngau cymdeithasol maen nhw’n eu defnyddio? Sut maen nhw’n eu defnyddio? Pa gynnwys maen nhw’n eu defnyddio? Faint o bobl sy’n hoffi, yn gwneud sylwadau ac yn rhannu eu cynnwys dros gyfnod penodol?
Cam pump - dewis y platfform gorau
Defnyddio’r wybodaeth sydd wedi cael ei chasglu am weithgareddau cwmnïau eraill a’r gynulleidfa darged. Er enghraifft, os yw’r gynulleidfa darged yn defnyddio Facebook yn bennaf, a bod gan y cwmni sy’n cystadlu am gwsmeriaid cyfradd ymgysylltu Metrig sy’n mesur nifer y bobl sy’n hoffi, rhannu a gwneud sylwadau. uchel, yna mae’n debyg mai Facebook fydd y sianel fwyaf addas.
Cam chwech - penderfynu ar strategaeth
Cynllunio strategaeth cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu penderfynu ar y canlynol:
- y math o gynnwys fydd yn cael ei bostio
- amseriad y postiadau
- amlder y postiadau
Cam saith - cyllideb
Penderfynu ar gyllideb, a chyfrifo beth yw’r ffordd orau o’i gwario.
Cam wyth - creu tîm
Dyrannu tasgau i aelodau’r tîm, yna cychwyn ar y gwaith.