Y cyfryngau cymdeithasol - hyrwyddo dy hun
Nid busnesau yw’r unig rai sy’n gallu defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo eu hunain. Drwy rhwydweithio cymdeithasol Safleoedd sy’n caniatáu i bobl gyfathrebu â phobl eraill a rhannu delweddau, fideos a chynnwys arall., gall pobl ddefnyddio safleoedd fel LinkedIn, Beyond.com a Xing i ddod o hyd i’w swydd nesaf.
Proffiliau personol
Mae pobl yn gallu hyrwyddo eu hunain drwy greu proffil i’w bostio ar gyfryngau cymdeithasol.
Dylai proffil da fod yn fanwl ac yn gywir. Ni fydd proffil sy'n rhy fyr, neu un sy’n cynnwys camgymeriadau, yn creu argraff dda iawn.
Gallai rhan gyntaf proffil gynnwys ffotograff. Mae hon yn ffordd effeithiol o greu argraff a dweud rhywbeth amdanat ti dy hun heb ddefnyddio geiriau.
Gallai’r ail ran fod yn crynodeb gweithredol Adran fer sy’n tynnu sylw at y prif bwyntiau. i dynnu sylw at y prif bwyntiau sy’n crynhoi’r neges rwyt ti eisiau ei chyfleu i bobl eraill. Weithiau, hon fydd yr unig ran o’r proffil fydd yn cael ei darllen, felly mae’n bwysig ei bod yn rhoi’r neges iawn i bobl.
Gallai’r drydedd ran sôn am brofiad, er enghraifft swyddi blaenorol a chefndir addysgol.
Gallai’r rhan nesaf sôn am sgiliau a phriodweddau.
Question
Meddylia am gymaint o eiriau â phosibl i ddisgrifio dy hun mewn ffordd gadarnhaol.
Mae llawer o ddewisiadau. Efallai dy fod wedi dewis geiriau fel:
- cydwybodol
- blaengar
- dyfeisgar
- uchelgeisiol
- penderfynol
- egnïol
- dibynadwy
- ymroddedig
- awyddus
- brwdfrydig
- creadigol
- angerddol
- trefnus
- cyfrifol