Llythrennedd ddigidolPotensial i fynd yn gaeth

Mae llythrennedd ddigidol yn hanfodol yn ein cymdeithas ni heddiw. Ond rhaid hefyd ddeall manteision ac anfanteision cyfryngau cymdeithasol, i fusnesau ac i unigolion.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Potensial i fynd yn gaeth

Mae pobl yn gallu mynd yn gaeth i gyfryngau cymdeithasol. Weithiau mae pobl yn mynd mor gaeth i gyfryngau cymdeithasol fel nad ydynt yn gallu ymwneud â phobl eraill. Mae hyn yn golygu eu bod yn treulio llawer iawn o’u hamser ar eu pen eu hunain yn eu byd digidol.

Mae llawer o ymchwil wedi cael ei wneud ond nid oes gwybodaeth bendant ynglŷn ag union faint y broblem hon. Er hyn, mae gwaith ymchwil gafodd ei wneud gan Social Media Today (2015) yn awgrymu’r canlynol:

  • mae 28 y cant o ddefnyddwyr iPhone yn edrych ar y cyfryngau cymdeithasol cyn codi o’r gwely yn y bore
  • mae pobl ifanc rhwng 15 a 19 oed yn treulio o leiaf dair awr y diwrnod yn edrych ar eu cyfryngau cymdeithasol