Llythrennedd ddigidolProffiliau llwyddiannus

Mae llythrennedd ddigidol yn hanfodol yn ein cymdeithas ni heddiw. Ond rhaid hefyd ddeall manteision ac anfanteision cyfryngau cymdeithasol, i fusnesau ac i unigolion.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Proffiliau llwyddiannus

Bydd proffil da yn fanwl ac yn gywir. Bydd yn cynnwys:

  • ffotograff efallai
  • crynodeb gweithredol
  • profiadau sy'n gysylltiedig â gwaith
  • gwybodaeth am gefndir addysgol
  • sgiliau a phriodweddau personol

Disgrifio sgiliau a phriodweddau

Rhaid i ti ddefnyddio tystiolaeth i gefnogi’r geiriau rwyt ti’n eu dewis ar gyfer disgrifio dy briodweddau. Gallai hyn fod yn seiliedig ar dy sgiliau, dy addysg neu dy gyflogaeth, ee

"Rwy’n benderfynol iawn o gyflawni fy nodau. Enghraifft o hyn yw fy ymrwymiad i gael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, yn ogystal â chwblhau blwyddyn o brofiad perthnasol mewn diwydiant."

Dylai’r geiriau rwyt ti’n eu dewis i ddisgrifio sgiliau a phriodweddau fod yn berthnasol i’r math o swydd mae gen ti ddiddordeb ynddi. Mae'n syniad da i edrych ar y geiriau sy'n cael eu defnyddio mewn hysbysebion ar gyfer swyddi, a dewis geiriau tebyg i’w cynnwys yn dy broffil dy hun.

Dysga sut i farchnata dy sgiliau ar-lein (Cynnwys Saesneg)

Question

Ar ôl edrych ar y rhestr isod, dewisa’r tri gair sydd fwyaf perthnasol i ti:

  • cydwybodol
  • blaengar
  • dyfeisgar
  • uchelgeisiol
  • penderfynol
  • egnïol
  • dibynadwy
  • ymroddedig

Ysgrifenna frawddeg i ddisgrifio dy hun gan ddefnyddio un o’r ansoddeiriau o’r rhestr uchod. Cofia gynnwys enghraifft sy’n dangos sut rwyt ti wedi defnyddio’r nodwedd yn ddiweddar.