Amharu ar enw da
Mae’n bosibl defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i waith ar gyfer y dyfodol, ond mae angen bod yn ofalus, oherwydd weithiau bydd rhai cyflogwyr yn edrych ar dudalen Facebook unigolyn, neu ar ei gyfraniadau Instagram neu Twitter, yn ogystal â’i CV.
Question
Pam byddai edrych ar gyfraniadau cyfryngau cymdeithasol unigolyn yn gallu gwneud i gyflogwyr posibl feddwl nad ydynt eisiau ei gyflogi?
Efallai bydd sylwadau, lluniau neu fideos ar gyfryngau cymdeithasol sy'n rhoi darlun negyddol o unigolyn. Gallai hynny wneud i gyflogwyr feddwl na fydd yr unigolyn yn addas ar gyfer y cwmni, ac na fydd yn deall gwerthoedd y sefydliad.