Angharad Price
Academydd a nofelydd a aned ym Methel, Gwynedd.
Graddiodd Angharad Price mewn Ieithoedd Modern o Goleg yr Iesu, Rhydychen, a bellach mae hi’n darlithio ym Mhrifysgol Bangor ym maes rhyddiaith Gymraeg y cyfnod modern.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Tania’r Tacsi, yn 1999.
Enillodd ei hail nofel, O! Tyn y Gorchudd! Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2002, a’r gyfrol hon oedd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn, 2003.
Yn ogystal, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o’r nofel, dan y teitl The Life of Rebecca Jones, yn 2010.
Yn 2012 cyhoeddodd Angharad ei thrydedd nofel, Caersaint – nofel gyfoes wedi ei gosod yn nhref Caernarfon, lle mae hi bellach yn byw.
Dywedodd Bethan Jones Parry ar raglen Nia ei bod yn “feistr ar ei chrefft”.
“Mae ganddi gyfraniad ar lefel rhyngwladol.
“Mae’n gallu bod yn grafog, yn ddadlennol; mae na lawer iawn o hiwmor. Mae’n nofelydd amlochrog iawn,” ychwanegodd.
Dolenni:
Clips

Hoff Awdur Cymru: Angharad Price
Bethan Jones Parry fu’n canu clod Angharad Price ar raglen Nia.











