Caradog Prichard
Bu farw yn 1980, yn 75 oed
Bardd, newyddiadurwr a nofelydd a aned ac a faged ym Methesda, Gwynedd.
Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr yng ngogledd Cymru a Chaerdydd cyn symud i Lundain, lle y treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd.
Ei waith mwyaf adnabyddus yw Un Nos Ola Leuad (1961), nofel bwerus ac ysgytiol wedi ei gosod yn ei ardal enedigol.
Cyfieithwyd hi i nifer o ieithoedd, a’i throsi’n ffilm hynod lwyddiannus.
Gwnaeth Caradog Prichard ei farc fel bardd yn ddyn ifanc, ac enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith, yn 1927, 1928 a 1929.
Yn 1962 enillodd y Gadair am ei gerdd Llef Un Yn Llefain.
J Elwyn Hughes, hanesydd ac awdur o Ddyffryn Ogwen, fu’n siarad o blaid Caradog Prichard ar raglen Nia.
“Roedd yn feistr ar ba bynnag gyfrwng a ddewisodd i fynegi ei hun ynddo,” meddai.
“Yn Un Nos Ola Leuad fe drawodd ar thema oeseol - stori am blant a honno’n stori afaegar, gredadwy ac yn un eithriadol o ddiddorol lle mae’n sôn am ddiniweidrwydd plentyn ac yn portreadu symlrwydd, ac eto, gymhlethdod, bywyd plentyn wrth iddo dyfu.
“Portreadodd gymdeithas chwarelyddol dlawd a chreu darluniau byw a chredadwy a chofiadwy iawn o’r bobl oedd yn byw yn yr ardal honno. Ac mae drwy gydol y gwaith yn apelio at deimladau ei ddarllenwyr, yn ennyn tosturi a chydymdeimlad ar y naill law ac ar y llaw arall yn ysgogi gwên a chwerthin.
“Mae wedi ei throsi i ryw 10 – 12 o wahanol ieithoedd Ewropeaidd sy’n ei gwneud wrth gwrs yn nofel rynglwadol”, ychwanegodd.
Dolenni
Clips

Hoff Awdur Cymru: Caradog Pritchard
J Elwyn Hughes fu’n canu clod Caradog Pritchard ar raglen Nia.











