Caryl Lewis
Enillydd Llyfr y Flwyddyn. Ganed yn Dihewyd, ger Aberaeron, Ceredigion.
Bellach mae Caryl Lewis yn byw ar fferm ar gyrion Aberystwyth.
Bu’n astudio ym mhrifysgolion Durham ac Aberystwyth.
Mae hi’n awdur llawrydd yn ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion, yn ogystal ag ar gyfer y theatr, y teledu a’r diwydiant ffilm.
Enillodd ei nofel fer, Iawn Boi? Wobr Tir na n-Og yn 2004, a’i nofel Martha, Jac a Sianco oedd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2005.
Ar ôl hynny, cyfieithwyd y nofel i’r Saesneg a seiliwyd ffilm boblogaidd arni.
Mae arddull realistig y nofel yn cyfleu’r newidiadau mawr sy’n digwydd yng nghefn gwlad, a’r cyfan yn cael ei bortreadu trwy gyfrwng y berthynas rhwng dau frawd a chwaer ganol oed sy’n rhedeg fferm deuluol.
Mae Caryl bellach wedi cyhoeddi dros ugain o deitlau, yn cynnwys ei nofel ddiweddaraf, Naw Mis (2009).
Yr actores Sharon Morgan fu'n siarad o'i phlaid ar raglen Nia.
“Tu hwnt o berthnasol – mae’n ysgrifennu am beth sy’n ein gwneud ni yn Gymry,” meddai gan ychwanegu fod ganddi “ddyfnder athronyddol, barddonol, deallusol" ond bod ei gwaith "hefyd yn ddathliad o fywyd.”
Dolenni:
Clips

Hoff Awdur Cymru: Caryl Lewis
Sharon Morgan fu’n canu clod Caryl Lewis ar raglen Nia.











