Islwyn Ffowc Elis
Bu farw yn 2004, yn 79 oed
Cyfeirir at Islwyn Ffowc Elis fel un o awduron Cymraeg mwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif.
Cafodd ei eni yn Wrecsam, a’i fagu ar fferm ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1947, ac yn 1951 enillodd y Fedal Ryddiaith.
Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Cysgod y Cryman, yn 1953 ac mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y Cyngor Llyfrau i ddewis Hoff Lyfr Cymraeg y Ganrif, y teitl hwn ddaeth i’r brig.
Aeth ymlaen i ysgrifennu nifer o nofelau eraill, gyda’i drydedd gyfrol, Yn Ôl i Leifior, a gyhoeddwyd yn 1956, yn ddilyniant i Cysgod y Cryman ac yn dilyn hynt a helynt yr un cymeriadau poblogaidd.
Disgrifiodd y nofelydd John Rowlands arddull Islwyn Ffowc Elis fel un ‘cyfareddol’ a 'llithrig' wrth siarad o’i blaid ar raglen Nia.
“Fo oedd yr un wnaeth wneud argraff arna i pan oeddwn i’n ifanc, yn hogyn ysgol ... pan ddaeth Cysgod y Cryman allan, ei nofel gyntaf.
“Roedd hi mor newydd a ffres ar y pryd.
“'Doedd 'na ddim gymaint â hynny o nofelwyr [yn sgrifennu o’i flaen yn yr 20fed Ganrif] – Kate Roberts a T Rowland Hughes, dyna’r awduron, a oedd yn ymdrin a ryw fywyd braidd yn hen ffasiwn.
“Mae wedi cyhoeddi ryw ddwsin o llyfrau. Mae na gymaint o amrywiaeth yn ei waith. Mae o’n boblogaidd ofnadwy,” ychwanegodd.
Dolenni:
Clips

Hoff Awdur Cymru: Islwyn Ffowc Elis
John Rowlands fu’n canu clod Islwyn Ffowc Elis ar raglen Nia.











