Main content

Canllawiau Pleidleisio Cyffredinol

Canllawiau Pleidleisio Cyffredinol cystadleuaeth Hoff Awdur Cymru 2013.

• Y gynulleidfa fydd yn penderfynu pwy sydd yn ennill drwy bleidlais neges destun. Caiff y dull o bleidleisio ei hybu ledled gwasanaethau BBC Radio Cymru gan hefyd fod ar gael ar wefannau a dulliau cyfathrebu torfol BBC Radio Cymru, Y Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru.

• Y cyfnod pleidleisio yw 14:30 ar Chwefror 26 i 17:00 ar Fawrth 4ydd.

• Ni chaiff pleidleisiau a dderbynnir tu allan i'r amserau uchod eu cyfri ond bydd y neges destun yn parhau i gostio. Fe all yr amseroedd pleidleisio newid.

• Bydd y BBC yn monitro ac yn cyfyngu'r nifer o bleidleisiau a geir o un rhif ffôn/ ffôn symudol (i un bleidlais), er mwyn sicrhau tegwch. Ni fydd pledleisiau ychwanegol yn cael eu cyfrif ond bydd yr alwad yn parhau i gostio.

• Bydd cost negeseuon testun yn unol a’ch cyfradd arferol.

• Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ganslo neu atal pleidleisiau unrhyw adeg.

• Mae gan y BBC yr hawl i ddiarddel pleidleisiau os oes amheuaeth bod pleidleisio twyllodrus wedi digwydd neu os yw'n amau bod ymgais wedi bod i drefnu'r pleidleisio.

• Ni all y BBC, ei hisgontractwyr, is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant technegol neu ddiffygion neu unrhyw broblem gydag unrhyw rwydwaith ffôn neu linell, system, gweinyddwr, darparwr neu arall allai arwain at golli pleidlais neu bleidlais heb ei chofnodi.

Dilynwch y ddolen yma i ddarllen côd ymddygiad cystadlaethau y BBC.

• Gweinyddir y gystadleuaeth gan y BBC ac mae'n atebol i ddeddf gwlad Lloegr a Chymru.