Main content

Bethan Gwanas

Awdur hynod gynhyrchiol

Mae Bethan Gwanas wedi cyhoeddi 17 teitl yn ystod y degawd diwethaf, yn cynnwys ffuglen i blant, pobl ifanc, oedolion a dysgwyr.

Graddiodd mewn Ffrangeg o Brifysgol Aberystwyth, ac yn 1985 enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Ar ôl cyfnod yn byw mewn llefydd mor wahanol â Bethesda, Caerdydd, Nigeria a Ffrainc, mae hi bellach wedi dychwelyd i Rydymain, yn ei hardal enedigol.

Enillodd Wobr Tir na n-Og ddwywaith, am Llinyn Trôns (2000) a Sgôr (2002).

Cyrhaeddodd ei nofel Hi yw fy Ffrind (2004) restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005.

Hunangofiant yw ei chyfrol ddiweddaraf, Hanas Gwanas, a gyhoeddwyd yn 2012.

Y llyfrgellydd a’r beirniad Bethan Hughes fu’n canu clodydd Bethan Gwanas ar raglen Nia:

“... mae’r cwbl mewn arddull sydd mor rhwydd i’w ddarllen. Mae ganddi iaith mor naturiol a chyfethog. Mae’n gyforiog o eiriau Cymraeg ‘go iawn’ - y Gymraeg sy’n cael ei siarad, yn arbennig yn ei hardal hi yn Sir Feirionnydd.

“Ond nid peth hawdd ydi 'sgwennu rhywbeth sy’n hawdd i’w ddarllen – mae hynny’n gofyn am dipyn o grefft.

“Mae’n awdur poblogaidd iawn. Mae hi'n llwyddiannus. Ac eto mi faswn i’n gofyn a ydy hi wedi cael cydnabyddiaeth haeddiannol am ei chyfraniad?

“Mae tueddiad i ddiystyrru gwaith am nad ydy o’n ddigon ‘llenyddol’ ond be sy' fwya pwysig? Llyfrau sy’n cael eu darllen gan ddarllenwyr go iawn neu blesio’r beirniaid a’r adolygwyr?” gofynnodd.

Dolenni:

Clips

Hoff Awdur Cymru: Bethan Gwanas

Y llyfrgellydd a’r beirniad Bethan Hughes fu’n canu clodydd Bethan Gwanas ar raglen Nia.