Main content

Ffoaduriaid v Hiraethog

Trydargerdd : Rheolau’r Swyddfa neu Rheol Aur y Swyddfa

Hiraethog
Gwneud paned i’r bos
bob dydd yn ddi-os;
dim hel clecs anfoesol
na charu rownd gongol;
dim rhyw gema’ ar dy sgrîn,
a dim llun-gopïo’th dîn.

Gwenan Prysor - 8

Y Ffoaduriaid
Cofiwch ddiffod golau,
cofiwch ddiffod sgrîn,
dwi’n synnu nad oes sein yn dweud
nawr cofiwch sychu’ch tîn.

Casia William - 8

Cwpled caeth ar yr odl ‘ed’.

Hiraethog
Lle bu heulo, gwyll bwled,
ac elor mwy yw gwelyau’r Med.

Ffion Gwen - 10

Y Ffoaduriaid
Ydw i, o feuryn, d'wed,
yn hôples am wneud cwpled?

Llŷr Gwyn Lewis – 9.5

Limrig yn cynnwys y llinell: ‘Addewais y gwnawn i fy ngorau’

Hiraethog
Addewais y gwnawn i fy ngora’
wrth ’stachu i fyny y grisia’:
a finna’n pesychu
a phrin yn anadlu,
bu hynny’n dro sâl â’m bwriada’.

Berwyn Roberts - 8

Y Ffoaduriaid
Addewais y gwnawn i fy ngorau
i ddodwy dau ddwsin o wyau.
Hyd yma, ar ori
nid wyf yn rhagori
rwy’n sori, nid wyf yn fy hwyliau.

Gwennan Evans - 8


Cywydd ‘Llys’

Hiraethog
O’m mewn noeth, a minnau’n hŷn,
yn cnoi enaid mae cnonyn
ddaw i fewn i guddfannau’n
y cof y ceisiwn eu cau;
tyrchu i’r fan lle mae hanes
yr un wyf a’r hyn a wnes.

Gwaedda mai euog oeddwn;
nid oes rhagddo guddio, gwn;
a bydd y dydd hwnnw’n dod
i wynebu cydwybod;
yr amser i mi erlyn
a chroesholi fi fy hun.

Rhys Dafis - 10

Y Ffoaduriaid

Neuadd Pantycelyn

Un hael iawn ei hyd a’i led,
hwn yw noddfa’r anaeddfed
lle mae’r meddwl dwl yn dod
i or-actio Cymreictod.

Bûm fy hunan yng nghanol
rhyddid ffals eu breuddwyd ffol,
yn ŵr mawr a gadwai’r mur
yn rat arsed yn y ffreutur;

a chwydais i’w chawodydd
fôr o rwtsh am fory rhydd
un waith. Ond ein llys ni oedd
a ninnau yn frenhinoedd.

Gruffudd Owen- 10

Pennill mawl neu ddychan (ar ffurf y Clerihew*) i unrhyw Sais neu Saesnes enwog

Hiraethog
I’w fawrhydi brenhinol Prince Philip
ro’n i am ’neud pennill chwip
i Sais, ond dwi mewn cawl
achos Almaenwr ’di'r diawl.

Gwenan Prysor - 8

Y Ffoaduriaid
Roedd Charles Babbage
yn drewi fel cabej
ond peidiwch â dal hynny’n erbyn y cr’adur:
fo ddyfeisiodd y cyfrifiadur.

Gwennan Evans a Llŷr Gwyn Lewis – 8.5

Cân ysgafn: Rhannu Swydd

Hiraethog
Ces rannu swydd gwneud clociau ar ddydd Mercher, Iau a Gwener
Ond dim ond rhywbeth brys oedd hyn er mwyn cael pasio amser.

Bûm yn gyd-gapten sybmarîn am bron i flwyddyn gron,
Ond aeth y pwysau’n ormod, a theimlwn dan y don.

Ni fedrwn rannu swydd ag ymgymerwr fwy nag awr,
A hynny am mai cas gen i yw gadael pobol lawr.

Roedd rhannu swydd â phlymar yn syniad digon doeth
Hyd nes y cefais i fy hun mewn tipyn o ddŵr poeth.

Gwireddu breuddwyd oes i mi oedd bod yn glown mewn parti,
Ond doedd ’na neb o’m cwmpas yn fy nghymryd i o ddifri.

Roedd rhannu swydd â chigydd yn wych nes daeth i stop
A hynny, yn anffodus, pan aeth yr hwch drwy’r siop.

Fe gefais fraint o weithio mewn cerddorfa anferth, do;
Aeth pethau braidd yn ffliwt, rhois innau’r ffidil yn y to.

Fe rennais swydd consuriwr – fe brofodd hynny’n ‘trici’,
A rhannu swydd pysgota mewn amgylchiadau ‘ffishi’.

Cydweithio ar ll’nau drychau fu’n siomedig, rhaid ’mi ddweud
A minnau’n eithaf siwr y gallwn weld fy hun yn gwneud.

Ar hyn o bryd, rwy’n rhannu swydd mewn becws yn Y Bala,
Rhaid codi’n gynnar iawn, - mae’n ddowt gen i y gwnaiff hyn ‘bara’.

Gwenno Davies - 9

Y Ffoaduriaid
Mi ddeffrais fore Sadwrn ar ôl nos Wener drom
a’m mhen fel Nagasaki, am mowals fel y Somme.
Mae gan ‘rhen Gruff nos Wener bob wythnos un job fach
sef gwneud siŵr bod Gruff ddydd Sadwrn yn deffro’n fyw ac iach.
Ond na, roedd Gruff nos Wener awydd dropyn bach o êl
ac mi aeth y diawl i hwyliau ac anghofiodd am y ddêl.
Fy job fel Gruff dydd Sadwrn ‘di mynd i’r gym am awr;
ond ‘rôl codi o fy ngwely roedd rhaid ‘mi orwedd lawr.
Gorweddais yno’n marw a finnau’n methu dallt
pwy chwydodd yn fy wardrob a pham bod cyri yn fy ngwallt?
Roedd golwg ar y gegin, fel pe bai cant o foch
‘di galw acw neithiwr am orji mewn sos coch.
Roedd llygaid fy anwylyd mor drugarog a dwy graig
(Dwi’n ama' bod Gruff nos Wener heb drafferthu ffonio’i wraig.)
Fe es i brynu coffi ond sylweddoli nes
fod y lleidar diegwyddor wedi dwyn fy sglyfath pres.
Rwy’n dechrau dod i’r casgliad nad ydi rhannu swydd
a hunanol Jagerbomiwr anystyriol ddim yn rhwydd.
Ond mi gaiff ‘rhen Ruff ddydd Gwener cyn hir edifarhau:
fy nghynllun wythnos nesa ydi meddwi Gruff nos Iau.

Gruffudd Owen – 9.5

Ateb Llinell ar y pryd – yn y clwb rwy’n cael o hyd

Hiraethog
Yn y clwb rwy’n cael o hyd
Obaith am fro fy mebyd

0.5

Y Ffoaduriaid
Yn y clwb rwy’n cael o hyd
Y Meuryn yn ymyrryd

Telyneg neu Soned: Manion

Hiraethog
’Does na’m trênars bach blêr dan y gwely
na’r un socsan unig tu ôl i’r drôr,
dim crys T ar lawr y cwpwrdd sychu
yn chwilio am y trowsus glan y môr;
’does na’m sôn am y sleid na’r pwll padlo,
’does na’m hanes o’r beic a’i olwyn gam
a fu’n pwyso ar drwyn y car rasio
yn y garej: aeth y ddau, fel y pram;
er, wrth grwydro ’stafelloedd ei chartre’
bob nos, mae hi’n dal i’w gweld nhw i gyd,
ac yn clywed wrth ddeffro bob bore
pob smic bach sydyn sy’n dweud dim, dim byd.
Ond heddiw teimlodd gic gynta’ un bach
fydd yn llanw’r tŷ ac yn creu’r un strach.

Eifion Lloyd Jones - 9

Y Ffoaduriaid
Dwn i’m i sicrwydd sut gwyddwn
fod yna rywbeth o’i le;
wnes di’m tecstio i sôn run dim
ond mi deimlais – dwn i’m be,
y ffordd wnaeth y golau newid
ella, neu’r ogla llaith
oedd ar gil y lle.

Ac mi sylwais fod y rhosod
yn llacio, yn mynd yn hen
felly dyma’u torri a’u gosod
at pan ddeuet ti’n ôl o’r trên.
Dim digon i sychu dy ddagrau,
ella, na newid fawr ddim,
ond digon i godi gwên.

Llŷr Gwyn Lewis - 9

Englyn: Rhaw

Hiraethog
Glan y môr

Gafael yn nhraeth atgofion – a wna hi
yn nhywod adfeilion
hen gaerau ei chwaraeon
a sisial dial y don.

Berwyn Roberts – 9.5

Y Ffoaduriaid
Celwyddog ar ddydd claddu yw'r weddi
adroddais. Serch hynny
yno roedd Duw ym mhridd du
fy ngwreiddiau'n fy ngheryddu.

Gruffudd Owen - 10

Cyfanswm
Hiraethog – 71.5
Y Ffoaduriaid - 73