Main content

Tir Mawr v Caernarfon

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter,
heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cais Yswiriant

Tir Mawr
Nid ow’n yn gyrru’n wirion
Na jarffio na gwneud sioe
‘Mond codi llaw a wnes i
Ar ddynes darais ddoe.

Huw Erith - 9

Caernarfon
#arrivaaviva Mor enbyd oedd ffawd fy Audi o’i droi i’r dreif nesaf inni un hwyr, yna’i
angori mewn wal nad oes gennym ni.

Llion Jones - 9

Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw chwaraewr tennis

Tir Mawr
Ag Andy'n colli, UK
Haera mai Sgot yw Murray.

Gareth Neigwl – 8.5

Caernarfon
Â’i gem yn wan, bydd Murray’n Albanwr,
A bri ar ei dennis, try’n Brydeiniwr.

Llion Jones – 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Go brin fod ‘na neb wedi sylwi’

Tir Mawr
Mae lympiau fel bryniau Eryri
Yn tyfu fel madarch o ‘mhen i
Mae fy ngwyneb fel toes
Gen i dair llygad groes
Go brin fod ‘na neb wedi sylwi

Jôs - 9

Caernarfon
Go brin fod ‘na neb wedi sylwi
Mai ailgylchu tasgau mae Ceri
Fe osodwyd ‘Go brin’
mewn Talwrn cyn hyn.
Fasa hyn byth ’di digwydd dan Gerry.

Geraint Lovgreen – 8.5

Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Y mae inni draeth ym mhen draw’r eithin’

Tir Mawr
Yn si y gragen a’r hesg a’i rigin
Mae in Fimosa ar lan rhyw Ariannin,
I dywod eilwaith daw’r haul i’w dilyn,
Gaeaf i haf a haf i’w Fehefin
A gemau’r sêr ar gomin fel galaeth,
Y mae inni draeth ym mhen draw’r eithin.

Gareth Neigwl - 9

Caernarfon
Y mae inni draeth ym mhen draw'r eithin
fu inni’n nef pan oedd haul Mehefin
a'i gyffro hud ar ein taith gyffredin
cyn i aeafau roi'r man cynefin
o gyrraedd, mae'r llwybr gerwin ato'n ôl
heno'n rhy heriol i un pererin.

Llion Jones - 9.5

Triban beddargraff: Arweinydd Noson Lawen

Tir Mawr
Yn awr dy gynulleidfa
sy’n filoedd o filiynna’
Yn gorfod gwrando ar bob un
O’r jocs sy’n hŷn na hwytha.

Jôs - 9

Caernarfon
’Sdim rhaid i mi gyflwyno
ein seren olaf heno -
rhowch groeso mawr i ... Angau Gawr!!
Daeth awr i'r llenni gwympo...

Ifor ap Glyn – 9

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Newid Enw

Tir Mawr
Roedd y llys yn nhre’ Caernarfon yn llawn dop fel tun o bys
Wedi’w stwffio i’r ymylon – D’oedd na’m lle i ogla’ chwys
Roeddynt yno ers ddydd Sadwrn, wedi teithio’n hir a phell
I weld Hoelion Wyth ‘Y Talwrn’ yn y doc o flaen eu gwell
Wedi’r aros daeth yr eiliad – i gyfeiliant gwan y cloc
Galwodd twrna yr erlyniad ar ei Dyst i wynebu’r doc
R’oedd bag papur dros ei ben o wedi’w brintio’n gelfydd dwt
Efo twll bach ble’r oedd ei geg o er mwyn iddo ddweud ei bwt
Gyda’i law ar glawr y Beibl tyngodd lŵ mewn ffug-lais main
Drwy rhyw declyn rownd ei wegil – toi hei tec o Stiwdio Sain
Clywai’r dorf yr ensyniada’ gan grochlefain megis brain
Geiriau Saesneg, llênladrata, fe bardduodd bawb a’i nain
Cafwyd bob un wan yn euog, rhoddwyd cyffion am bob coes
Wedi dos o blu a thriog fe’u carcharwyd am eu hoes
R’oedd y Barnwr yn ddyledus ac yn uchel iawn ei barch
I’r llêngarwr dewr, anhysbus yn y bag ‘Gwasg Carreg Gwalch’
Fe agorwyd ddrws i’r ffreutur ac i’r llys daeth pwff o wynt
A whssshshsht! , d’oedd dim bag papur ym mhle’r oedd bag papur gynt
Fe ddaeth ‘woooa!’ gan bawb oedd yno. Fel hen filgi’n dod o’r môr,
Ar y stand fe grynai Dwynwen ( hi ‘di’r ferch sy’n cadw sgor)
Fe ddiflanodd Dwynwen drennydd. Gan fod beirdd i’w cael o hyd
Y mae ganddi enw newydd mewn gwlad bell ym mhen draw’r byd.

Jôs – 9.5

Caernarfon
Mi hoffwn newid enw, di Løvgreen ddim yn cŵl,
mae’n cael ei gamsillafu o hyd gan ambell ffŵl;
dwi am ei newid fory i rywbeth call fel Jones,
a thra y bydda’i wrthi mi newidia i fy nhrôns.

Mi allwn i ei newid i rywbeth efo ‘ap’,
Hen Ffordd Gymreig, ond na, mae’r system honno braidd yn crap.
Ac fel ‘Myrddin’, neu fel ‘Ifor’, mae’n swnio mor hen-ffasiwn,
fel enw boi sy’n arwain gweddi fer ar ddiwedd sasiwn.

Na, dwisio enw trendi, dwi isio enw ‘in’,
Cymraeg, ond hollol with-it, fel Gruff Rhys neu Ceri Wyn.
Dwi’m isio diodde ffyliaid yn dod ataf yn eu myrdd,
a’r cwestiwn hollol wreiddiol gan bob un: “Ti’n caru gwyrdd?”

Ac wedi newid enw, efallai’n wir y daw
y dydd pan na fydd tasgau’r Talwrn byth heb ddod i’m llaw
tan wythnos cyn yr ornest. Ar fy enw y mae’r bai
am bopeth gwael sy’n digwydd yn fy mywyd, fwy neu lai.

Newidiais f’enw heddiw felly, jyst fel newid crys,
a dwi’n teimlo’n lot gwell heno nag a wnes i ers oes pys.
Dwi’n berson hollol newydd; sgwennais hon heb dorri chwys;
newidiais fy hunaniaeth, a throi yn Ifan Prys.

Geraint Lövgreen - 9

Ateb llinell ar y pryd : Ar awr wan mi es am dro

Tir Mawr
Ar awr wan mi es am dro,
A rwan dwi yn Rio.

0.5

Caernarfon
Ar awr wan mi es am dro
Dratia ni chrwydrai eto.

Telyneg (heb fod dros 18 llinell) neu soned: Panad

Tir Mawr
Pa drafod tywydd? Lle bu'r haul mae twll.
Pa iechyd ddaw i'r sgwrs a phawb mor glaf?
Pa sôn am waith a'r oriau i gyd yn fwll?
Pa siarad am yfory heb un haf?
Ar aelwyd galar, glynant wrth hen drefn
Ar ôl i angau daflu'r lle tu chwith,
Ben lawr. Cynigiant ddefod cegin gefn
A seremoni'r te a'r bara brith.
Cysetlyd fydd ein hateb greddfol: 'Does
Dim isio, wir' neu 'Dawn ni ddim yn fodd
I beri trafferth'; ffugio bod yn groes ...
Nes inni gallio, cofio, derbyn rhodd
Eu dwylo; derbyn bod pob 'Gwan neu gry?'
Yn gamau bach at ddechrau trwsio'r tŷ.

Myrddin ap Dafydd – 10

Caernarfon
Mesurais einioes mewn paneidiau;

bu’n styrofoam ar faes eisteddfod
ac anghydfod beirniadol y glaw
yn codi dafnau o brotest brown;

bu’n gysur o thermos mynydd
pan oedd gwynt y gaea’n gwisgo
pob blewyn a’i luman o rew.

A chefais ‘banad’ (mewn dyfynodau)
a oerai heb ei orffen,
yng ngwres yr helfa bedsit.

Wynebais stormydd bywyd
a hwn yn falast yn fy llaw...

Dysgais fod panad yn offrwm traws-Offa,
brawdgarwch heb is-deitlau...

Dyma fydwraig dyner yr awen
wrth chwysu cerddi’r nos...

A gwn, os bydd panad wrth erchwyn gwely fory,
fod gwên i heddiw arall, a chariad yn parhau.

Ifor ap Glyn - 10

Englyn: Gerald Williams, yr Ysgwrn

Tir Mawr
Arhosodd yn nrws ei groeso; – cadwodd
Y coed wedi'u cwyro;
Mae archif canrif y co'
Yn dân ar aelwyd yno.

Myrddin ap Dafydd – 9.5

Caernarfon
Er i mi weld rhwng pedwar mur - gadair
Y gad, ei churadur
Yw'r ddolen wir i ddolur
Yr Ysgwrn dan y dwrn dur.

Ifan Prys – 9.5

Cyfanswm
Tir Mawr - 74
Caernarfon - 73